Jane Dodds: 'Rhaid cael mwy o gapasiti' yn y Senedd

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn cefnogi mesurau i gynyddu nifer yr Aelodau o'r Senedd.

Yn ôl Jane Dodds, mae "angen mwy o gapasiti" gan fod mwy o gyfrifoldebau gan y corff i'w gymharu â'r sefydliad yn 1999.

"Pan oeddwn ddim yn aelod o'r Senedd roeddwn yn meddwl fod o'n syniad ofnadwy cael mwy o aelodau, ond ers bod yna rwy'n gweld yn union beth ydy'r sefyllfa", meddai wrth siarad ar Dros Frecwast.

"Mae'n rhaid i ni gael mwy o bobl i wneud y swydd yn iawn ac yn effeithiol."

Ddydd Llun daeth i'r amlwg y gallai'r gost o ethol 36 o wleidyddion ychwanegol i'r Senedd fod yn £17.8m y flwyddyn.

Bydd y newidiadau, os cânt eu gwneud yn gyfraith a'u bod yn barod mewn pryd, yn dod i rym yn yr etholiad nesaf yn 2026.

Bydd angen i ddwy ran o dair o'r Senedd gytuno arnynt.