Senedd fwy: Gallai 36 AS ychwanegol gostio £17.8m y flwyddyn
- Cyhoeddwyd
Gallai'r gost o ethol 36 o wleidyddion ychwanegol i'r Senedd fod yn £17.8m y flwyddyn, yn ôl ffigyrau newydd.
Am y tro cyntaf mae gweinidogion Llafur wedi amcangyfrif y gost o gael Senedd fwy.
Mae cefnogwyr yn dweud bod angen mwy o wleidyddion oherwydd bod gan y Senedd fwy o bwerau deddfu a threthu o'i gymharu â sefydliad datganoli 1999.
Ond mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud fod angen "mwy o feddygon, deintyddion, nyrsys ac athrawon ar Gymru, nid mwy o wleidyddion".
Dywed Llywodraeth Cymru "ei fod yn gyfle yn ystod y genhedlaeth hon... i gryfhau ein democratiaeth".
Bydd y newidiadau, os cânt eu gwneud yn gyfraith a'u bod yn barod mewn pryd, yn dod i rym yn yr etholiad nesaf yn 2026.
Bydd angen i ddwy ran o dair o'r Senedd gytuno arnynt.
Mae asesiad gan y Senedd ei hun yn dweud y gallai'r gost fod yn uwch yn ystod y blynyddoedd lle cynhelir etholiadau.
Ym mlwyddyn gyntaf y Senedd newydd, meddir, gallai'r gost fod yn £14.8m o leiaf a chyn uched â £17.7m gan yna ostwng i £13.9m a £16.8m yn 2027/8.
Yn 2030/31, gallai hynny godi i o leiaf £16.3m a chymaint â £19.5m.
Mae'r ffigyrau uchaf yn awgrymu sefyllfa lle mae hyd at pum plaid, hyd at dri phwyllgor ychwanegol a diwrnod ychwanegol o drafodaethau yn y Senedd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'r costau sefydlu cychwynnol yn £8m. Roedd cyllideb y Senedd yn £67m yn 2023/24.
O'r 60 presennol i 96
Fe fyddai'r drefn newydd yn golygu cynyddu nifer yr Aelodau o 60 i 96 ac fe fyddai nifer y gweinidogion yn codi o 12 i 17.
O dan y newidiadau byddai'r system etholiadau yn cael ei diwygio'n aruthrol.
Fe fyddai pleidleiswyr yn cael un bleidlais, yn lle'r ddwy bresennol, gyda dewis o restrau plaid yn hytrach nag ymgeiswyr.
Fe fyddai yna 16 o etholaethau, gyda chwe Aelod o'r Senedd (AS) yn cael eu hethol ym mhob un.
Byddai etholiadau'r Senedd yn cael eu cynnal bob pedair, yn hytrach na phum mlynedd, o 2026 ymlaen.
Fe fyddai'r system a ddefnyddir yn cael ei dylunio i ethol ymgeiswyr ar sail cyfran y pleidleisiau a gânt yn yr etholaeth.
Bydd gofyn i ymgeiswyr y dyfodol fyw yng Nghymru.
'Dyw cynlluniau ar gyfer cwotâu rhywedd ar restrau pleidiau ddim wedi eu cyhoeddi ddydd Llun.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwahanu hynny oddi wrth weddill y cynlluniau ynghanol ofnau y gallai fod yn destun her gyfreithiol, ynghanol dadlau ynghylch a yw o fewn pwerau'r Senedd i basio deddf o'r fath ai peidio.
Mae galwadau ers blynyddoedd am fwy o wleidyddion ym Mae Caerdydd.
Mae cefnogwyr yn dadlau bod cyfrifoldebau Senedd Cymru - sydd wedi tyfu'n sylweddol yn y deuddeg mlynedd diwethaf - yn golygu bod llwyth gwaith cynyddol ar aelodau o'r Senedd i graffu ar weinidogion a'r deddfau y maent am eu pasio.
Ers 2011 mae'r Senedd wedi gallu pasio deddfau ar amrywiaeth eang o feysydd. Yn y cyfamser mae gweinidogion wedi cael pwerau codi trethi sydd hefyd yn destun craffu gan y Senedd.
Dywedodd adroddiad panel arbenigol yn 2017 fod angen rhwng 20 a 30 aelod ychwanegol ar y Senedd.
Cytunodd Mark Drakeford ac Adam Price ar fodel ar gyfer ehangu'r Senedd y llynedd - gan ysgogi'r Ceidwadwyr Cymreig i roi'r gorau i bwyllgor Senedd a oedd yn trafod y mater.
Mae Plaid Cymru yn cefnogi'r cynlluniau ond mae'r Ceidwadwyr Cymreig - yr ail blaid fwyaf yn y Senedd ar ôl Llafur - yn eu gwrthwynebu i raddau helaeth ar sail cost.
O blaid ac yn erbyn
Wrth siarad ar raglen Dros Ginio Radio Cymru fe ddywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth fod "dyblygu gwaith" ar hyn o bryd oherwydd nad oes digon o aelodau.
"Dwi'n meddwl fod hwn yn gam gwirioneddol hanesyddol ymlaen i Gymru o ran aeddfedrwydd ein democratiaeth ni o ran creu democratiaeth fydd yn gwasanaethu pobl Cymru'n well.
"Oeddwn yn newyddiadurwr yn gweithio yn y Cynulliad ar y diwrnod cyntaf un yn 1999 a doedd y corff hwnnw ddim byd tebyg i'r hyn sydd ganddon ni rŵan.
"Mae'r newid enfawr wedi digwydd yn beth mae ein Senedd yn gallu gwneud ac eto dim newid o gwbl yn ei gapasiti... nawr fydd yn gallu gwneud hynny a fydd Cymru'n elwa.
"Mae [y gost] yn gwestiynau hollol deg i'w gofyn, mae yna gost i lywodraethiant gwlad a dwi'n gweld hwn yn fuddsoddiad yn ein dyfodol ni.
"Mae'n gost fach o'i gymharu a cost gwella adeilad Palas San Steffan, £10bn jyst ar yr adeilad, costau Tŷ'r Arglwyddi... 105 o Arglwyddi newydd gafodd eu creu gan Boris Johnson, dyna'r math o wariant sy'n dod â ddim budd na chynrychiolaeth ychwanegol."
Fe ddywedodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds, fod "angen mwy o gapasiti" gan fod mwy o gyfrifoldebau gan y corff i'w gymharu a'i sefydliad yn 1999.
"Pan oeddwn ddim yn aelod o'r Senedd roeddwn yn meddwl fod o'n syniad ofnadwy cael mwy o aelodau, ond ers bod yna rwy'n gweld yn union beth ydy'r sefyllfa", meddai ar raglen Dros Frecwast fore Mawrth.
"Mae'n rhaid i ni gael mwy o bobl i wneud y swydd yn iawn ac yn effeithiol."
Ond dywedodd Aled Thomas, cynghorydd Ceidwadol ar Cyngor Sir Benfro: "Yn Sir Benfro ni'n edrych ar deficits o filiynau tra fod Llafur a Phlaid Cymru yn y Senedd am hala £18m y flwyddyn ar mwy o politicians... mwy o beaurocracy, mwy o civil servants.
"Mae fe ddim am fod yn mwy o scrutiny am fod nhw ddim am ehangu nifer y scrutiny committees, beth am y pobl sydd ddim yn sefyll i parti? Does dim siawns gyda nhw nawr.
"Os mae'r Senedd mo'yn ehangu dy'n nhw ddim yn ei wneud yn y ffordd iawn."
Gan bryderu am faint yr etholaethau arfaethedig, fe ychwanegodd: "Dyw mwy o bobl ddim yn gyfartal â mwy o scrutiny... ni'n ffocysu ar y pethau anghywir yma."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2022
- Cyhoeddwyd10 Mai 2022