George North: 'Andros o hapus' â pherfformiad Cymru
Mae asgellwr Cymru, George North, yn dweud ei fod yn "andros o hapus," gyda chanlyniadau Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd hyd yma.
Ar ôl trechu Portiwgal o 28 pwynt i 8 ar y penwythnos, yr her nesaf i dîm Warren Gatland yw maeddu Awstralia.
Dywedodd North: "Os oedd rhywun 'di dweud 10 pwynt ar ddechrau'r twrnament ar ôl y ddau gêm gyntaf bydden i'n hapus go iawn."
Teimla y bydd y gêm nos Sul yn un "enfawr i ni i pwsho mlaen yn y grŵp," ond mae'n rhagweld y bydd y Wallabies yn "brifo ar ôl y gêm yn erbyn Fiji".
Mae'n rhagweld "gêm gyflym, physical, a ma' rhaid ni fod yn barod erbyn dydd Sul."
Ond nid pawb sydd mor bositif. Wedi i Fiji guro Awstralia mae pryderon bod hyn yn gadael y grŵp yn benagored.
Dywedodd cyn-ganolwr Cymru Jamie Roberts: "O ystyried y canlyniad heno [gydag Awstralia'n cael pwynt bonws], hwn oedd y canlyniad gwaethaf posib i Gymru."
"Mae'n rhaid i ni guro Awstralia. Os nad ydyn ni, dwi ddim yn meddwl bod ni'n dianc o'r grŵp."