Aelwyd Hafodwenog yn diddanu draw yn Lyon

Dyma flas o un o'r caneuon y bydd côr o Gymru'n ei pherfformio yn ardal cefnogwyr Lyon cyn y gêm rhwng Cymru ac Awstralia ddydd Sul.

Cafodd Aelwyd Hafodwenog o Sir Gâr eu dewis i ddod allan i berfformio yng Nghwpan y Byd yn dilyn eu llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd eleni.

Fel rhan o'u hymweliad fe fyddan nhw'n diddanu cefnogwyr yn y ddinas gyda chaneuon Cymraeg, yn ogystal â'r fersiwn hon o 'Byd o Heddwch', sy'n addasiad o 'World in Union'.

Cafodd carfan Cymru ar gyfer y gêm dyngedfennol yn erbyn Awstralia ei chyhoeddi fore Gwener, gyda Jac Morgan yn gapten.