Dupont, Galthié a Dan Biggar

  • Cyhoeddwyd
illtudFfynhonnell y llun, Illtud Dafydd

Dros yr wythnosau nesaf bydd miliynau yn dilyn yr helynt yn Ffrainc wrth i 20 tîm frwydro am Gwpan Webb Ellis.

Mae'r newyddiadurwr chwaraeon, Illtud Dafydd, yn wreiddiol o'r Bont-faen, ond yn byw ym Mharis ers Hydref 2018. Mae Illtud yng nghanol cyffro Cwpan y Byd yn Ffrainc ar hyn o bryd ac yn gohebu ar ran asiantaeth AFP.

"Mae'r awyrgylch wedi bod yn adeiladu yn araf bach dros y bedair i chwe wythnos d'wetha", meddai Illtud.

"Mae 'na boster enfawr o Antoine Dupont tu allan i amgueddfa'r Louvre, ac mae un arall o'r bachwr Julien Marchand tu fas i dŷ opera cenedlaethol Ffrainc.

Paul WillemseFfynhonnell y llun, Illtud Dafydd
Disgrifiad o’r llun,

Illtud yn cyfweld ag ail-reng Montpellier a Ffrainc, Paul Willemse

"O'n i lawr yn Toulouse yn ddiweddar ac roedd y trams fanna wedi eu gorchuddio gyda phosteri Cwpan y Byd, felly yndi mae'r awyrgylch yna, ac yr wythnos yma mae pethau wedi camu lan bach yn fwy ar y cyfryngau cymdeithasol ag ati hefyd.

"Rwy'n beicio i'r gwaith heibio pentref y cefnogwyr sy'n cael ei roi at ei gilydd, ac mi fydd hwnna'n cael ei agor dydd Gwener cyn y gêm gyntaf."

Cadarnleoedd y de

Er bod gan Ffrainc draddodiad cyfoethog o rygbi, dydy hi ddim wedi bod yn gêm i'r wlad gyfan dros y blynyddoedd.

"Yn draddodiadol, de orllewin Ffrainc yw ble mae cewri rygbi'r wlad ac o'r ardal yna mae'r rhan fwyaf o'r chwaraewyr - mae Toulouse yng nghanol y de orllewin wedi ennill y bencampwriaeth 22 o weithiau, mwy na neb arall.

"Ond yn y Cwpan y Byd yma, mae yna gemau lan yn Lille a Nantes yn Llydaw, felly fel pan oedd y gystadleuaeth yn y wlad yn 2007, maen nhw'n trio mynd a'r gêm i ddinasoedd sydd bach yn wahanol.

podFfynhonnell y llun, Illtud Dafydd
Disgrifiad o’r llun,

Sgwrsio â Lauren Jenkins ar bodlediad rygbi S4C

"Bydd hi'n ddiddorol gweld gemau yn Lille achos does gan y ddinas ddim clwb rygbi proffesiynol - mae clwb rygbi'r ddinas (Olympique Marcquois) yn chwarae ym mhedwaredd adran Ffrainc. Bydd y gemau yn Lille felly'n cael eu chwarae yn stadiwm pêl-droed y ddinas, ble enillodd Cymru yn erbyn Gwlad Belg yn Euro 2016.

"Bydd y gemau yn Bordeaux a Toulouse yn arbennig achos mae'r cyhoedd yno'n dilyn rygbi drwy eu bywydau ac yn wybodus iawn, felly fydd 'na rhyw elfen ychwanegol i'r gemau yno."

Mae'r rhan fwyaf o'r garfan yn dod o'r de, ond dywed Illtud fod Paris hefyd wedi gadael ei hoel ar y garfan.

"Mae dipyn o'r chwaraewyr yn dod o Baris ei hun, fel Jonathan Danty, Sekou Macalou o St Denis, a Matthieu Jalibert sy'n dod o Saint-Germain-en-Laye."

awjFfynhonnell y llun, Illtud Dafydd
Disgrifiad o’r llun,

Illtud yn cyfweld ag Alun Wyn Jones yng Nghaerdydd

Arwyddocad diwylliannol?

Roedd Cwpan y Byd pêl-droed yn Ffrainc yn 1998 yn cael ei weld fel moment arwyddocaol yn niwylliant cyfoes y genedl. Roedd Ffrainc yn fuddugol, gyda carfan o chwaraewyr gwyn, du, o ogledd Africa ac o dras Iddewig.

"Ie mae'n bosib gwneud y gymhariaeth (gyda Ffrainc '98) achos mae gen ti bach o hynny yn y bencampwriaeth yma," meddai Illtud.

"Gyda rygbi mor gryf yn y de orllewin, dydi'r ardal yna ddim mor gymysg o'r diwylliannau gwahanol a rhywle fel Paris. Ond mae gen ti bobl fel Sekou Macalou sydd o dras Affricanaidd a gath ei fagu mewn ardal ryff o Baris, a Reda Wardi sydd â theulu o ogledd Affrica ac wedi ei fagu yn Montpellier.

"Os fydden nhw yn ennill bydd pawb yn neidio ar y bandwagon a bydd pawb o bob cefndir ym mhob banlieue (ardaloedd yn ninasoedd Ffrainc) yn dod at ei gilydd. Felly er bod gan Ffrainc ei phroblemau ar hyn o bryd, gyda'r streics ers mis Gorffennaf, mae chwaraeon yn gallu dod a'r wlad at ei gilydd - mae Ffrainc yn uno pan mae'r timau cenedlaethol yn ennill."

Dylanwad Dupont

Tri Ffrancwr sydd wedi eu henwi fel chwaraewr gorau'r byd gan yr IRB ers sefydlu'r wobr yn 2001. Cafodd Fabien Galthié yr anrhydedd yn 2002, Thierry Dusautoir yn 2011 a Dupont yn 2021.

Felly mae gan gapten a phrif hyfforddwr presennol Ffrainc y calibr i fynd ymhell yn y gystadleuaeth eleni.

Gyda Antoine Dupont yn y garfan gall y Ffrancwyr fod yn hyderus. Ac mi fydd yn ennill ei 50fed cap yn erbyn Seland Newydd yn gêm agoriadol Cwpan y Byd 2023.

dupontFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Seren y byd rygbi ar y funud, Antoine Dupont

"Mae e'n hollol wych. Mae pawb yn disgwyl gymaint ganddo fe - mae posteri o fe ym mhobman 'ma. Mae'n foi eitha' humble, yn dod o bentref yn y Pyrenees, a dydy e ddim yn gadael pethe fynd i'w ben e.

"Dwi wedi siarad 'da fe mewn cyfweliadau yn eitha' aml, a dydy e heb newid o gwbl ers y tro cynta imi siarad 'da fe.

"Mae brawd Dupont yn magu moch, ac mae e'n mynd nôl i helpu gyda hynny pan ma' 'da fe amser rhydd."

'Galthié yr athrylith'

"Ar yr ochr rygbi mae Galthié'n athrylith, gyda'r tactegau mae'n rhoi ar waith - roedd e'n chwaraewr anhygoel ei hun. Ond fel unigolyn, dydy e ddim y person mwyaf hoffus o ran ei bersonoliaeth, a dydy o ddim yn hawdd delio ag e.

hyfforddiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Galthié ac Ibañez yn y cefn, ac yn eistedd o'u blaen mae rhywun mae cefnogwyr Cymru'n ei 'nabod yn dda, Shaun Edwards

"Mae disgwyliadau Galthié o'r chwaraewyr yn uchel iawn, ac fe roedd hynny'n broblematig ar lefel clwb. Ond gyda'r tîm cenedlaethol mae ganddo Raphaël Ibañez, cyn-gapten Ffrainc, wrth ei ochr.

"Mae Ibañez yn chwarae'r rôl tadol, a Galthié yn chwarae rôl y bos yn y gwaith. Galthié yn edrych ar ôl y rygbi, Ibañez yn edrych mwy ar y pethau emosiynol."

Pwy 'neith amlygu ei hun?

O edrych ar rygbi Ffrainc yn rheolaidd, ydy Illtud yn rhagweld rhyw chwaraewr sydd efallai ddim yn adnabyddus i wneud enw i'w hun eleni?

"Os byddwn i'n gorfod enwi un chwaraewr i gadw llygaid arno, byddwn i'n dweud Davit Niniashvili, cefnwr Georgia. Mae'n 21, ac yn chwarae i Lyon, a fe yw'r olwr gore mae Georgia erioed 'di'w gynhyrchu.

"'Nath e sgorio naw cais mewn un gêm y tymor d'wetha', ac mae o mor gyflym ar ei draed, a phwerus yn amddiffynnol - allwch chi ddim gofyn am fwy gan gefnwr. Dydy e ddim yn siarad lot o Ffrangeg, a siarad dim Saesneg, felly dwi ddim yn gwybod sut mae e'n cyfathrebu yn Lyon, ond mae'n llwyddo i wneud rhywsut ac yn sgorio lot o geisiau."

Davit NiniashviliFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewr sydd 'di creu dipyn o argraff ar Illtud, Davit Niniashvili

Cefnogwyr Ffrainc yn disgwyl llwyddiant?

Gyda charfan mor ddawnus, oes disgwyliad yn Ffrainc y bydd Les Blues yn ennill y gystadleuaeth?

"Mae cefnogwyr Ffrainc yn hoff iawn o'r garfan 'ma achos ma' nhw'n grŵp o ddynion hoffus dros ben. 'Di nhw ddim yn fois sy'n mynnu sylw - mae'n nhw'n dod 'mlaen yn dda ac maen nhw jest eisiau chwarae.

"Mae elfen arall wrth gwrs - y ffaith bod nhw'n ennill. Mae Ffrainc fel gwlad wastad moen gweld eu timau nhw'n ennill, boed hynny yn y Gemau Olympaidd, Cwpan Pêl-droed y Byd... pwy bynnag sy'n ennill sy'n hawlio'r sylw!

"Ac mae'r tîm rygbi wedi bod yn llwyddiannus dros ben ers i Fabien Galthié fod wrth y llyw - ma' nhw ond 'di colli ddwywaith ers iddo ddod yn reolwr ym mis Gorffennaf 2021, a cholli unwaith adref ers Mawrth 2021. O ystyried y bedair mlynedd ddiwethaf mae'r cyhoedd yn disgwyl pethau mawr, ac efallai tlws Cwpan y Byd ei hun ar ddiwedd mis Hydref."

Biggar dan y chwyddwydr

Oes rhywun yn Ffrainc yn trafod Cymru fel tîm a all greu argraff yn ystod y gystadleuaeth?

"Yn anffodus, na, dydy Cymru ddim yn cael ei ystyried fel tîm efo unrhyw siawns. I fod yn onest efallai fod hyn yn siwtio Warren Gatland, i fod yn y cysgod ddim yn bygwth neb, a wedyn pan ddaw'r gemau mawr fe allen ni ennill nhw.

"Ond wedyn mae 'na bobl 'di bod yn trafod Dan Biggar, gan ei fod yn chwarae i Toulon nawr, ac yn dysgu Ffrangeg hefyd."

BiggarFfynhonnell y llun, Illtud Dafydd
Disgrifiad o’r llun,

Illtud yn croesawu Cymro arall i Ffrainc; Dan Biggar, sydd bellach yn chwarae dros Toulon

Felly, o roi ei ben ar y bloc, sut gystadleuaeth mae Illtud yn rhagweld Cymru'n ei gael a phwy fydd yn fuddugol?

"Dwi'n meddwl neith Cymru gyrraedd y chwarteri, o leiaf. Dwi'n meddwl nawn ni guro Awstralia, gan bo'r timau mewn mannau tebyg, wedi cael hyfforddwyr newydd. O weld nhw'n hyfforddi dwi'n gallu gweld bod gan Gymru rhyw fath o hunaniaeth yn y ffordd mae nhw, ac mae 'na undod oddi ar y cae. Er hyn, dwi'n meddwl falle nawn ni golli i Ffiji.

"Ond i ennill yr holl beth dwi'n meddwl Ffrainc. Mae wastad yn dda gweld y tîm cartref yn ennill, a bydde'n dda gweld Les Blues a'r grŵp gwych yma o chwaraewyr yn ennill ar eu tomen ei hunain, gyda Dupont yn codi'r tlws."

Hefyd o ddiddordeb: