Buddugoliaeth Cymru dros Awstralia yn 'anhygoel'

O nerfusrwydd i orfoledd - go brin bod llawer o gefnogwyr yn Lyon nos Sul wedi rhagweld y byddai Cymru'n trechu Awstralia mewn ffordd mor ysgubol i fachu'r lle cyntaf yn rownd wyth olaf Cwpan Rygbi'r Byd.

Ond dyna yn union ddigwyddodd ac roedd yna anghrediniaeth bod y bwlch rhwng y ddau dîm - 40-6 - mor fawr.

Dyma sgôr orau Cymru erioed yn erbyn y Wallabies, ac roedd y cefnogwyr yn wên o glust i glust wrth adael y stadiwm.

Mae rhai nawr yn rhagweld y gallai Cymru fynd yn bell yn y gystadleuaeth - a chodi'r tlws ar ei diwedd, hyd yn oed.