Angharad James: Y pwysau ar Gymru cyn herio Denmarc

Mae Cymru'n gobeithio sicrhau eu pwyntiau cyntaf yn eu hymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd nos Fawrth wrth iddyn nhw wynebu Denmarc yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Ar ôl colli o gôl i ddim i Wlad yr Iâ yn eu gêm gyntaf nos Wener, mae Cymru yng nhrydydd safle Grŵp A3 tra bo Denmarc ar y brig ar ôl trechu'r Almaen 2-0.

Mae'r rheolwr, Gemma Grainger, wedi dweud nad yw'n poeni am allu Cymru i sgorio, er y methiant i rwydo yn Reykjavik gan dîm a gafodd sawl cyfle a rhan helaeth o'r meddiant.

Ategu hynny mae'r chwaraewr canol cae Angharad James, sy'n dweud bod y pwysau y mae'r chwaraewyr yn ei roi ar ei hunain i sicrhau pwyntiau yr un fath, waeth pa mor gryf yw'r gwrthwynebwyr.