Cynghrair y Cenhedloedd: Gwlad yr Iâ 1-0 Cymru
- Cyhoeddwyd
Cafodd Cymru eu trechu gan Wlad yr Iâ yn eu gêm gyntaf yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Wener.
Er perfformiad cryf gan y menywod o Gymru roedd gôl yn yr hanner cyntaf gan gapten y tîm cartref yn ddigon i ennill y fuddugoliaeth iddynt.
Cafodd Cymru sawl cyfle ar ddechrau'r gêm, ac roedd y tîm yn ymddangos mewn sefyllfa gref wrth iddynt ennill y gornel gyntaf.
Ond Gwlad yr Iâ sgoriodd gyntaf gyda'r capten Glodis Viggosdottir yn penio'r bêl i'r gôl oddi ar gic o'r gornel.
Er bod y tîm cartref ar y blaen gorffennodd Cymru'r hanner cyntaf yn gryf gydag ymgais tuag at y gôl gan Carrie Jones yn cael ei arbed gan y golwr.
Ar ddechrau'r ail hanner roedd Cymru i weld wedi colli ychydig o hyder, ond wrth i'r hanner fynd yn ei flaen llwyddodd yr ymwelwyr i roi tipyn o bwysau ar amddiffynwyr Gwlad yr Iâ.
Ond er eu perfformiad cryf methodd Cymru â chipio pwynt gan adael y sgôr yn 1-0 erbyn diwedd y gêm.
Bydd gêm nesaf Cymru nos Fawrth, wrth iddynt herio Denmarc yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Medi 2023
- Cyhoeddwyd20 Medi 2023
- Cyhoeddwyd16 Medi 2023