Cwpan y Byd: Cymru'n mynd 'un gêm ar y tro'
Wrth i Gymru baratoi i herio Georgia yn y gêm olaf yng Ngrŵp C yng Nghwpan y Byd, mae Cymru eisoes yn sicr o'u lle yn rownd nesaf y gystadleuaeth.
Ond yn ôl y capten Dewi Lake, dyw'r garfan ddim wedi dechrau edrych ymlaen at rownd yr wyth olaf eto, gan wybod fod angen perfformio ddydd Sadwrn yn gyntaf.
Dywedodd fod Cymru mewn lle da, ond eu bod yn canolbwyntio ar y gemau "un ar y tro".
Un pwynt yn unig sydd ei angen ar Gymru er mwyn gorffen ar frig y grŵp.
Os ydy Cymru'n llwyddo i wneud hynny fe fyddan nhw'n wynebu un ai Japan neu Ariannin yn yr wyth olaf ym Marseille ar 14 Hydref.
Ond os ydy Cymru yn gorffen yn ail yn y grŵp, fe fyddan nhw'n herio Lloegr yn yr un ddinas ar 15 Hydref.