Croesawu cefnogwyr Cymru mewn tair iaith yn Nantes
Bydd croeso cynnes iawn i gefnogwyr Cymru yn Nantes y penwythnos hwn.
Mae criw o blant ysgol wedi bod yn paratoi perfformiad arbennig mewn tair iaith, i ddathlu'r cysylltiadau agos rhwng Cymru a Llydaw.
Mae'r clip uchod yn dangos y plant yn ymarfer ar gyfer digwyddiad a gafodd ei drefnu gan Cerdd Iaith - a hynny drwy ganu yn Gymraeg, yn Ffrangeg ac yn Saesneg.
Bydd Cymru yn wynebu Georgia yn eu gêm olaf yng ngrŵp C ddydd Sadwrn.
Maen nhw eisoes wedi sicrhau eu lle yn rownd yr wyth olaf, a dim ond un pwynt sydd angen arnynt er mwyn gorffen ar frig y grŵp.