Dewi Lake: 'Byddwn ni'n dysgu o hyn a dod nôl yn well'

Mae Cymru allan o Gwpan Rygbi'r Byd wedi iddyn nhw gael eu trechu o 17-29 gan Ariannin mewn gêm fratiog yn rownd yr wyth olaf ym Marseille.

Er i Gymru reoli'r hanner cyntaf, doedd y Pumas fyth ymhell ar ei hôl hi, a nhw aeth ymlaen i reoli'r ail hanner.

Yn ymateb i'r golled dywedodd y cyd-gapten Dewi Lake fod y canlyniad yn "siom - dim yma oedd ble oedden ni eisiau mynd adref".

"Mae pawb wedi rhoi popeth i mewn i'r campaign 'ma, a byddwn ni'n dysgu o hyn a dod nôl yn well," meddai.