Dyn wedi difrodi 80 o geir ar stryd yn Nhreganna

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth wedi i ddyn ddifrodi 80 o geir yng Nghaerdydd.

Dywedodd yr heddlu fod y difrod wedi digwydd tua 01:00 bore dydd Mawrth, 31 Hydref ar Heol Lansdowne yn ardal Treganna.

Maen nhw wedi rhyddhau fideo o'r dyn maen nhw'n chwilio amdano mewn cysylltiad â'r digwyddiad.