Caerdydd: Apêl heddlu ar ôl i 80 o geir gael eu difrodi

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae'r heddlu wedi rhyddhau fideo o'r dyn maen nhw'n chwilio amdano mewn cysylltiad â'r digwyddiad

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth wedi i ddyn ddifrodi 80 o geir yng Nghaerdydd.

Dywedodd yr heddlu fod y difrod wedi digwydd tua 01:00 bore dydd Mawrth, 31 Hydref yn ardal Treganna.

Roedd car teulu Denis Rosenau, 18, yn un o'r rhai cafodd eu difrodi ar Heol Lansdowne.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd crafiadau ar nifer o geir ar hyd Heol Lansdowne yn dilyn y digwyddiad yn oriau mân bore Mawrth

Wrth iddo a'i deulu ymbaratoi i fynd i'r ysgol ac i'r gwaith, dywedodd ei fod wedi mynd "allan a gweld nifer o'i gymdogion yn edrych ar eu ceir".

"Des i 'nôl adref a gweld bod car y teulu wedi cael crafiad yr holl ffordd lawr", meddai, wrth bwyntio at y difrod o un pen y car i'r llall.

"Mae pob car yma [ar Heol Lansdowne] wedi'u difrodi."

Disgrifiad o’r llun,

Denis Rosenau: 'Mae e'n drist'

Ychwanegodd: "Dwi wir ddim yn gweld y pwynt o nhw'n difrodi ceir pobl eraill. Dwi'n reit frustrated.

"Dyw e ddim yn rhywbeth ma' rywun arferol yn gwneud, cerdded rownd yn difrodi ceir pobl gyda'u hallweddi achos ar ddiwedd y dydd ry' ni gyd yn gweithio'n galed ac wedyn ma' rhywun yn cerdded rownd ac yn difrodi'n ceir.

"Mae e'n drist mewn gwirionedd."

Pynciau cysylltiedig