Halfpenny yn 'un o'r bois mwya' proffesiynol'

Bydd y cefnwr Leigh Halfpenny yn dechrau yn ei ymddangosiad olaf dros ei wlad pan fydd Cymru yn wynebu'r Barbariaid yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn.

Bydd Halfpenny yn ffarwelio â'r llwyfan rhyngwladol wedi gyrfa o 15 mlynedd.

Hyd yma mae wedi sgorio 801 o bwyntiau mewn 101 o gemau i Gymru.

Bydd yn parhau i chwarae ar lefel clwb, ac mae disgwyl iddo ymuno â'r Crusaders yn Seland Newydd.

Cyn y gêm, dywedodd capten Cymru, Jac Morgan fod Halfpenny wedi bod yn "was ardderchog" i'w wlad dros y blynyddoedd a'i fod yn un o'r chwaraewyr mwyaf proffesiynol mae wedi dod ar ei draws.

Mae carfan y Barbariaid hefyd yn cynnwys Alun Wyn Jones a Justin Tipuric.

Fe wnaeth y ddau ymddeol o rygbi rhyngwladol ar yr un diwrnod yn gynharach eleni 2023.