Leigh Halfpenny yn ymddeol o rygbi rhyngwladol

  • Cyhoeddwyd
Leigh HalfpennyFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond Neil Jenkins a Stephen Jones sydd wedi cicio mwy o bwyntiau i Gymru na Leigh Halfpenny

Mae Leigh Halfpenny wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o rygbi rhyngwladol.

Bydd y chwaraewr 34 oed yn chwarae i Gymru yn erbyn Y Barbariaid ar 4 Tachwedd fel ei gêm brawf olaf, ond bydd yn parhau i chwarae rygbi ar lefel clwb.

Mae Halfpenny wedi cael 101 o gapiau dros Gymru gan sgorio 801 o bwyntiau.

Dywedodd: "Gyda chalon drom rwy' wedi penderfynu bod hi'n bryd i mi gamu'n ôl o rygbi rhyngwladol.

"Dyw'r penderfyniad heb fod yn hawdd, ond mae'r amser bellach yn teimlo'n iawn ac rwy'n edrych ymlaen at un gêm olaf gartref yn erbyn y Barbariaid wythnos nesaf.

"Mae wedi bod yn anrhydedd enfawr i wisgo crys Cymru a chynrychioli fy ngwlad dros y 15 mlynedd diwethaf."

Ffynhonnell y llun, Ben Whitley
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y cefnwr mai 'gyda chalon drom' y penderfynodd i ymddeol o'r gêm ryngwladol

Y sylwebydd rygbi, Cennydd Davies sy'n bwrw golwg ar gyfraniad Halfpenny i dîm Cymru.

Sut mae dechrau asesu cyfraniad Leigh Halfpenny i rygbi'r undeb? Mae'r gŵr sy'n hanu o Orseinion ger Abertawe wedi cyflawni bron popeth yn y gamp ac fydd heb os yn cael ei gydnabod ymhlith chwaraewyr gorau Cymru yr oes broffesiynol, ac yn un o'r hoelion wyth yn ystod cyfnod Warren Gatland wrth y llyw.

Ers ei gap cyntaf nôl yn 2008 mae'r chwaraewr wedi bod yn aelod allweddol o'r tîm cenedlaethol, boed yn asgellwr ar gychwyn ei yrfa ac yna'n gefnwr.

Mae'r ystadegau'n adlewyrchu ei gyfraniad anferthol dros ei wlad.

Wedi gwisgo'r crys ar 101 achlysur fe gipiodd y Gamp Lawn ddwywaith, Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar bedair gwaith a'r Goron Driphlyg ar ddwy achlysur wrth sgorio.

Y Llewod, Gleision a Toulon

Ynghyd â Chymru fe oedd chwaraewr y gyfres dros y Llewod ar eu taith fuddugol yn Awstralia yn 2013 ac fe gynrychiolodd y tîm eto yn Seland Newydd bedair blynedd yn ddiweddarach.

Roedd ei lwyddiant ddim wedi ei gyfyngu i'r llwyfan rhyngwladol chwaith, ac ar ôl ffarwelio â'r Gleision i ymuno â sêr Toulon ac yn aelod o'r tîm hwnnw enillodd Cwpan Heineken Ewrop yn 2015.

Roedd ei ddewrder a'i natur gystadleuol ar y cae yn aml yn arwain at nifer o anafiadau creulon, yr olaf ond dwy flynedd yn ôl yn erbyn Canada.

Ond roedd cymeriad y chwaraewr i'w weld yn glir wrth frwydro'n ôl i'r cae chwarae ac ennill ei le yng ngharfan Cwpan y Byd yn Ffrainc - a hynny am y trydydd tro yn ei yrfa.

Yn un a gyflawnodd gymaint ar y llwyfan mwyaf, mae ei le yn ddiogel ymhlith oriel yr anfarwolion.

Pynciau cysylltiedig