Swydd pennaeth gwersyll Llan-llyn 'wedi apelio'n syth'

Mae hi'n bennod newydd yn hanes gwersyll gweithgareddau awyr agored yr Urdd, Glan-llyn.

Mair Edwards yw cyfarwyddwr newydd y safle yn Llanuwchllyn, ger Y Bala, gan olynu Huw Antur wedi ei ymddeoliad diweddar.

Nid dyma'r tro cyntaf i Mair weithio i'r Urdd - un o'i swyddi cyntaf ar ôl graddio oedd fel swyddog datblygu i'r mudiad yn Sir Ddinbych.

A nid hi yw aelod cyntaf ei theulu i weithio i'r mudiad 'chwaith - yn y 1930au a dechrau'r 1940au roedd ei nain yn ysgrifenyddes i neb llai na sylfaenydd yr Urdd, Syr Ifan ab Owen Edwards.