Penodi Mair Edwards yn gyfarwyddwr newydd Glan-llyn
- Cyhoeddwyd

Mae'r gwaith o uwchraddio'r Ganolfan Hyfforddi Gweithgareddau Dŵr bellach wedi ei gwblhau
Mae Glan-llyn wedi penodi cyfarwyddwr newydd wrth i'r gwersyll gwblhau cynllun uwchraddio sylweddol gwerth £2m.
Yn dilyn blwyddyn o waith datblygu mae'r Urdd wedi cadarnhau fod y gwaith o uwchraddio'r Ganolfan Hyfforddi Gweithgareddau Dŵr bellach wedi ei orffen.
Bydd y ganolfan yn cynnwys llety a chyfleusterau hunanarlwyo, ardaloedd cyfarfod, ystafelloedd newid a gweithdy.
Yn y cyfamser, mae'r Urdd wedi cadarnhau penodiad Mair Edwards fel cyfarwyddwr newydd Gwersyll Glan-llyn.
Roedd y gwaith diweddaraf, ar gost o £1.2m, yn rhan o fuddsoddiad gwerth £2m yn y gwersyll ger Y Bala.
Fe agorodd Canolfan Addysgol newydd yng Nglan-llyn Isa' ei ddrysau yn 2021.
Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: "Mae'n wych gweld y cyfleusterau newydd hyn wedi'u cwblhau ac yn cael eu mwynhau gan blant a phobl ifanc a staff y Gwersyll.
"Mae'r Ganolfan Ddŵr newydd yn ein galluogi i barhau i gynnig gweithgareddau awyr agored o'r ansawdd uchaf yng Nglan-llyn, ac yn rhan o weledigaeth ehangach i uwchraddio cyfleusterau Gwersylloedd yr Urdd.
"Dros y tair blynedd diwethaf mae Glan-llyn wedi derbyn buddsoddiad o £2m, gyda diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru a Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Jeremy Miles AS, er mwyn datblygu darpariaeth y ganolfan awyr agored - sydd hefyd yn cynnwys trawsnewid adeilad 150 oed, Glan-llyn Isa', i lety hunangynhaliol a thrawiadol.
"Mae Glan-llyn Isa' yn ateb y galw gan aelodau hŷn yr Urdd am lety annibynnol, ac wedi bod yn hynod boblogaidd ers ei agoriad yn 2021."

Mae Mair Edwards wedi ei phenodi fel cyfarwyddwr newydd Gwersyll Glan-llyn
Bydd Mair Edwards yn olynu Huw Antur yn y rôl, yn dilyn ei ymddeoliad.
"Mae darparu'r cyfleoedd gorau i bobl ifanc wedi bod yn greiddiol i fy ngwaith ers degawdau bellach, ac am barhau i fod yn flaenoriaeth gen i yn rhinwedd y swydd hon," meddai Ms Edwards.
"Dros y blynyddoedd mae Glan-llyn wedi llwyddo i wireddu cynlluniau sylweddol er mwyn gwella safonau a chyfleusterau'r gwersyll, ac rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth ariannol i alluogi hyn i ddigwydd.
"Mae Canolfan Ddŵr newydd Glan-llyn gystal ag unrhyw ganolfan yn unrhyw le, ac mae hyn yn rhoi'r hyder i ni barhau i ddenu plant a phobl o bob cwr i gymryd rhan mewn gweithgareddau o bob math."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2021