Tawelwch i nodi'r Cadoediad yn ystod protest gweithwyr dur
Cafodd gwasanaethau eu cynnal ar draws Cymru fore Sadwrn i nodi Diwrnod y Cadoediad.
Mae'n arfer i gadw dau funud o dawelwch am 11:00 ar 11 Tachwedd bob blwyddyn i gofio'r rhai a fu farw neu a gafodd eu hanafu mewn rhyfeloedd ar draws y byd.
A dyna'n union y gwnaeth cannoedd o weithwyr dur ffatri Tata ym Mhort Talbot, gan ymgynnull i ddangos parch ar y cyd, cyn gorymdeithio trwy'r dref er mwyn dangos eu cefnogaeth i'r diwydiant yn y dref.
Mae yna ofnau y gallai miloedd o swyddi ddiflannu wrth i gwmni Tata geisio cynhyrchu dur mewn modd mwy eco gyfeillgar ar y safle.