Gwasanaethau Diwrnod y Cadoediad ar draws Cymru
- Published
Mae gorymdeithiau a gwasanaethau gosod torchau wedi cael eu cynnal ar draws Cymru i nodi Diwrnod y Cadoediad.
Mae dau funud o dawelwch am 11:00 bob blwyddyn ar 11 Tachwedd i nodi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Bydd defodau tebyg yn cael eu cynnal ddydd Sul - Sul y Cofio - gan gynnwys Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol Cymru yng Nghofeb Ryfel Genedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd.
Mae nifer o adeiladau cyhoeddus yn cael eu goleuo'n goch dros y penwythnos er teyrnged i'r rhai a fu farw neu a gafodd eu hanafu mewn rhyfeloedd ar draws y byd.
Ymhlith y llefydd a noddodd Diwrnod y Cadoediad ddydd Sadwrn roedd Pen-y-bont ar Ogwr, Abertawe, Caerfyrddin, Conwy, Dinbych a'r Rhyl.
Cafodd seiren ymosodiad awyr ei seinio cyn dechrau'r ddau funud o dawelwch yng nghanol dinas Wrecsam ac fe gafodd digwyddiad yn Y Drenewydd ei ffrydio ar-lein.
Ym Mangor roedd yna wasanaeth wrth gofeb ryfel y ddinas, ond fe fydd gorymdaith yn cael ei chynnal ddydd Sul rhwng y gofeb a'r gadeirlan.
Ym Mhort Talbot fe wnaeth cannoedd o weithwyr dur, yn eu dillad gwaith, gynnal dau funud o dawelwch cyn gorymdeithio trwy'r dref fel rhan o'r ymdrech i geisio sicrhau dyfodol miloedd o swyddi yn safle Tata.
Yn Llandudno roedd yna wasanaeth yng nghanolfan yr elusen Blind Veterans UK a chroeso i bobl leol ymuno â'r cyn aelodau o'r lluoedd arfog sy'n cael cefnogaeth yna.
Dywedodd y cyn-gorpral Tom Jones, 90: "Mae'n ddiwrnod i gofio ein ffrindiau a'r cydweithwyr a roddodd eu bywydau er i mi gael byw."
Er erchyllterau rhyfeloedd, dywedodd ei fod hefyd yn cofio'r "profiad a'r cyfeillgarwch a'r hwyl" y cafodd yng nghwmni ei gyd-filwyr.
Dywedodd yr Uwchgapten Eirian Davies, o gatrawd meddygol y fyddin yng Nghymru, ei bod yn cofio cyfraniad "cyn-deidiau a cyn-neiniau" ac "am yr hogia' gollodd eu bywydau ar yr operations dwi 'di bod ar".
Mae hi hefyd yn meddwl am "y rhai sy'n dod adra efo'r briwiau a'r anafiadau corfforol a meddyliol" sy'm "rhywbeth ma' nhw'n gorfod byw efo hyd eu bywyd".
Ychwanegodd: "'Dan ni'n gw'bod bob sowldiwr a pawb yn y lluoedd arfog yn rhoi eu bywyd ar y lein i'w wlad 'ma... er bod y rhan fwya' ddim isio cwffio ma' nhw'n goro 'neud eu dyletswydd i'r wlad."
"I fi'n bersonol, dwi'n cofio am comrades dwi 'di colli yn Afghanistan," dywedodd y Sarjant Kevin Pritchard sydd wedi gwasanaethu gyda'r fyddin ers 28 o flynyddoedd.
"Ond dim jyst cofio am y meirw ond cofio am rheiny sydd ar ôl, cofio am y teuluoedd a jyst cofio a diolch am y gwasanaeth ma' pobol 'di roid i'w gwlad."
Related topics
- Published11 November 2023
- Published11 November 2023