Llinos Roberts: 'Byddai Aled yn falch iawn'
Llinos Roberts fydd cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025.
Cafodd Ms Roberts, gwraig y diweddar Aled Roberts a fu'n Gomisiynydd y Gymraeg, ei geni yn Rhosllannerchrugog ac mae wedi byw a gweithio, fwy neu lai, ym mro'r eisteddfod ar hyd ei hoes.
Aled Roberts oedd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro 2011.
Dywedodd Ms Roberts wrth raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fod ganddi atgofion melys o'r cyfnod hwnnw.
"Yn amlwg byddai'n meddwl yn ôl at y cyfnod yna... ma' gen i go' o wythnos yr Eisteddfod, dwi'm yn meddwl bo' fi di' weld o am wythnos gyfan, oedd o'n rhedeg yma ac acw ar hyd y maes," meddai.
"Mae 'na elfen emosiynol yna, a ma' hynny'n mynd i ddigwydd. Ond mewn gwirionedd dwi'n meddwl byddai Aled wedi bod yn falch iawn fy mod i wedi penderfynu cymryd y swydd yma mlaen."