Llinos Roberts yw Cadeirydd Eisteddfod Wrecsam 2025

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Llinos Roberts yw Cadeirydd Eisteddfod Wrecsam 2025

Llinos Roberts fydd cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025.

Ers 2013 mae hi wedi bod yn bennaeth cyfathrebu corfforaethol a'r Gymraeg yng Ngholeg Cambria, sydd â nifer o safleoedd yn y gogledd-ddwyrain.

Cafodd Ms Roberts, gwraig y diweddar Aled Roberts a fu'n Gomisiynydd y Gymraeg, ei geni yn Rhosllannerchrugog ac mae wedi byw a gweithio, fwy neu lai, ym mro'r eisteddfod ar hyd ei hoes.

Dywed y byddai ei gŵr wedi bod yn "falch iawn" o'i gweld yn cymryd y swydd, a'i bod yn awyddus i'r Eisteddfod adlewyrchu'r brwdfrydedd a'r frwydr barhaus i gadw'r Gymraeg yn fyw mor agos at y ffin.

Ffynhonnell y llun, Llinos Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Llinos Roberts a'i diweddar ŵr, Aled Roberts

Y tro diwethaf i'r Brifwyl ymweld â'r ddinas oedd yn 2011, ac Aled Roberts oedd cadeirydd y pwyllgor gwaith.

Ar y pryd roedd newydd gael ei ethol yn aelod i'r Cynulliad Cenedlaethol - y Senedd erbyn hyn.

Yn Eisteddfod Genedlaethol 2011 cafodd tad Llinos, y diweddar Gynghorydd Arwel Gwynn Jones - cyn-bennaeth Ysgol Bodhyfryd Wrecsam - ei urddo i'r Orsedd er anrhydedd.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Y diweddar Aled Roberts oedd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro 2011

Bu farw Aled Roberts, a oedd yn wreiddiol o Rosllannerchrugog, yn Chwefror 2022 yn 59 oed.

Wedi gyrfa fel cyfreithiwr, fe gafodd ei ethol i Gyngor Wrecsam yn 1991, cyn cael ei wneud yn faer y dref yn 2003, ac yna'n arweinydd y cyngor yn 2005.

Fe gynrychiolodd ranbarth Gogledd Cymru dros y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Cynulliad (fel roedd yn cael ei adnabod ar y pryd) am bum mlynedd tan 2016 pan gollodd y blaid y sedd ranbarthol.

Disgrifiad o’r llun,

2011 oedd y tro diwethaf i'r brifwyl ymweld â Wrecsam

Dywedodd Ms Roberts wrth raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fod "pob rôl fel hyn yn her", ond bod yna "gyfle ym mhob her".

"Ma' Wrecsam yn wir wedi newid llawer, 'da ni wedi cael bach o hud Hollwyood ar y dre, a 'da ni'n gobeithio gallu dangos hynny i weddill Cymru," meddai.

"'Da ni'n griw sy'n cydweithio beth bynnag, yn byw mor agos at y ffin fan hyn... yn ddinas a chymuned agos sy'n cydweithio trwy'r amser, ac wedi arfer gweithio fo'n gilydd er mwyn croesawu, codi arian a threfnu.

"'Da ni'n dal i drafod lleoliad Eisteddfod Wrecsam, ond yn amlwg bydd rhaid i ni bwyso a mesur, edrych ar yr ochr ariannol, diogelwch a'r gwaddol hefyd.

"Mae 'na lawer o bobl yn y dre yn meddwl y dylai'r Eisteddfod fod yn y dref ei hun ond ydi hynny'n mynd i fod yn bosib? Dwi ddim yn gwybod."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Wrecsam eisiau denu sawl digwyddiad i'r ardal wrth baratoi cais o'r newydd am statws Dinas Diwylliant ar gyfer 2029

Ychwanegodd fod ganddi atgofion melys o pan yr oedd ei gŵr yn gadeirydd ar y pwyllgor gwaith yn 2011.

"Yn amlwg byddai'n meddwl yn ôl at y cyfnod yna... ma' gen i go' o wythnos yr Eisteddfod, dwi'm yn meddwl bo' fi di' weld o am wythnos gyfan, oedd o'n rhedeg yma ac acw ar hyd y maes.

"Mae 'na elfen emosiynol yna, a ma' hynny'n mynd i ddigwydd. Ond mewn gwirionedd dwi'n meddwl byddai Aled wedi bod yn falch iawn fy mod i wedi penderfynu cymryd y swydd yma mlaen."

Pan wnaeth yr Eisteddfod ymweld â Wrecsam yn 2011 fe wnaeth bron i 150,000 ymweld â'r Brifwyl, a geiriau Mr Roberts oedd bod "y pwyllgor gwaith, trigolion y dalgylch a Chymru gyfan yn edrych yn ôl ar Brifwyl tre'r ffin gyda balchder a chydag atgofion melys iawn".

Yr adeg honno fe gafodd y Brifwyl ei chynnal ar dir Fferm Bers Isaf ar Ffordd Rhuthun.

'Effaith gadarnhaol'

Wrth groesawu Prifwyl 2025 dywedodd Cyngor Wrecsam y byddai'r Eisteddfod Genedlaethol yn un o saith digwyddiad o bwys i'w cynnal yn lleol, gyda'r bwriad o atgyfnerthu'r cais ar gyfer statws Dinas Diwylliant 2029.

Prif ddyletswydd y pwyllgor gwaith fydd arwain y paratoadau yn ystod y flwyddyn a hanner nesaf.

Mae'r gwaith o ffurfio'r pwyllgorau testun a'r pwyllgorau lleol wedi cychwyn ac mae'r cyfarfodydd i gytuno ar gystadlaethau a beirniaid yn mynd yn eu blaen.

Mae disgwyl i'r rhestr testunau fod yn barod erbyn y gwanwyn.

Swyddogion eraill

Mae nifer o swyddogion yn rhan o'r Pwyllgor Gwaith ac maen nhw wedi cael eu hethol gan wirfoddolwyr y pwyllgorau lleol.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Chris Evans, Cadeirydd Saith Seren, yw Cadeirydd Cronfa Leol Eisteddfod 2025

Chris Evans yw Cadeirydd y Gronfa Leol. Daw o Wrecsam, ac mae'n dysgu yn Ysgol Morgan Llwyd ers blynyddoedd. Mae'n Gadeirydd Saith Seren, a bu ynghlwm â phapur bro Y Clawdd am flynyddoedd lawer.

Jane Angharad Edwards sydd wedi'i hethol yn Is-gadeirydd Strategol. Mae hi'n swyddog gyda Chomisiynydd y Gymraeg, a hi fydd yn arwain ar yr elfen gymunedol, codi ymwybyddiaeth a sicrhau gwaddol yn yr ardal ar ddiwedd y prosiect.

Mae Elen Mai Nefydd yn gweithio ym Mhrifysgol Wrecsam ers blynyddoedd, ac yn bennaeth datblygiad academaidd y Gymraeg y brifysgol. Gyda chefndir ym maes theatr a chelfyddydau perfformio, hi yw Is-gadeirydd Diwylliannol Eisteddfod 2025, a hi fydd yn arwain ar elfennau artistig y prosiect.

Shoned Mererid Davies, sydd â'i gwreiddiau yn Wrecsam sydd wedi'i hethol yn Ysgrifennydd y Pwyllgor Gwaith. Mae hi'n gyn-reolwr Siop y Siswrn yn Wrecsam a'r Wyddgrug ac yn gweithio fel swyddog addysg yng Nghyngor Llyfrau Cymru ers dros 20 mlynedd.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Elen Mai Nefydd, Shoned Mererid Davies a Jane Angharad Edwards - aelodau eraill o Bwyllgor Gwaith Eisteddfod Wrecsam 2025

Wrth groesawu'r tîm, dywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses: "Rydyn ni'n edrych ymlaen yn arw at gydweithio gyda Llinos a'r tîm dros y cyfnod nesaf wrth i ni baratoi am Eisteddfod 2025.

"Rydyn ni'n edrych ymlaen at ddychwelyd i ardal Wrecsam. Er i ni ymweld â'r ardal yn lled-ddiweddar yn 2011, mae'r Eisteddfod wedi datblygu ac esblygu llawer yn ystod y cyfnod, yn union fel Wrecsam.

"Mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous i fod yn cynnal yr ŵyl yn yr ardal, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at gydweithio gyda'r gymuned ar bob lefel dros y flwyddyn a hanner nesaf."

Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn yr ardal o 2-9 Awst 2025.