Non Evans: Achos anafiadau rygbi 'ddim am biti arian'
Mae cyn-gapten rygbi merched Cymru yn dweud mai "mater o amser" fydd hi cyn y bydd mwy o ferched yn ymuno â'r achos cyfreithiol yn erbyn awdurdodau'r gamp.
Non Evans ydi'r unig ddynes ar y rhestr o bron i 300 o chwaraewyr sy'n cyhuddo'r cyrff rheoli o beidio â gwneud digon i amddiffyn chwaraewyr rhag anafiadau parhaol i'r ymennydd.
Yn ôl Ms Evans, mae hi'n teimlo fel bod "rhaid gwneud rhywbeth fel nad ydio'n digwydd i bobl eraill".
Dywedodd World Rugby, Undeb Rygbi Cymru a'r Rugby Football Union mewn datganiad yr wythnos hon nad oedd modd iddyn nhw wneud sylw ar yr achos gan nad ydyn nhw wedi derbyn yr holl fanylion.
Mae hi bellach wedi dod i'r amlwg fod Cymry eraill gan gynnwys Gavin Henson a Colin Charvis ymhlith y 295 o chwaraewyr sy'n rhan o'r achos.
Mae'r Uchel Lys wedi cadarnhau y bydd cais i'r achosion gael eu cyflwyno gyda'i gilydd yn cael ei glywed yn y flwyddyn newydd.
Os fydd y cais yn llwyddiannus, fyddai'n golygu bod modd rheoli'r achosion cyfreithiol yn erbyn World Rugby, Undeb Rygbi Cymru a'r Rugby Football Union gyda'i gilydd.
Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C, dywedodd Non Evans nad ydi hi'n gwneud hyn am resymau ariannol.
"Fi dewisodd chwarae rygbi, do'dd neb wedi neud i mi fynd ar y cae... ond byddai hi'n neis gwybod os i fi wedi cael unrhyw broblemau gyda'n meddwl i," meddai.
"Dwi ddim yn neud o i gael unrhyw arian gan yr undeb..... falle bydd mwy o fenywod yn dod 'mlaen.
"Ges i bach o sioc i weld taw fi oedd yr unig fenyw ar y rhestr... ond mae gweld gymaint ar y rhestr, a'r ffaith ei fod yn gyhoeddus... mae mwy o bobl yn siarad am biti fe.
"Ond fel ti'n newid y gêm dwi ddim yn gwybod... ma' rygbi yn gêm gorfforol, ond ma' eisiau ffeindio rhywle yn y canol.
Mewn datganiad ar y cyd dywedodd World Rugby, Undeb Rygbi Cymru a'r Undeb yn Lloegr eu bod yn "gwrando ar bryderon y chwaraewyr, ond bod yr achos yn eu hatal rhag cefnogi'r unigolion, ond mai'n bwysig peidio anghofio am yr unigolion wrth wraidd yr achos."