Rygbi a dementia: 'Ofn na fydda i'n adnabod fy mhlant'
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol yn ofni na fydd yn adnabod ei blant ymhen pum mlynedd, wedi iddo gael diagnosis o ddementia cynnar.
Mae Lenny Woodard yn credu nad yw chwaraewyr rhyngwladol eraill wedi mynd yn gyhoeddus gyda'u cyflyrau gan na allen nhw wynebu dweud wrth eu teuluoedd.
Ddydd Llun fe fydd yn un o 180 o gyn-chwaraewyr, gan gynnwys cyn-gapten Cymru Ryan Jones, sy'n bwriadu lansio achos cyfreithiol yn erbyn World Rugby, Undeb Rygbi Cymru (URC) a'r Rugby Football Union (RFU).
Yn ôl cyfreithwyr mae'r cyrff llywodraethu rygbi wedi methu â chymryd camau rhesymol i amddiffyn chwaraewyr rhag anaf parhaol a achoswyd gan "ergydion cyfergyd ac is-gyfergyd ailadroddus".
Dywedodd World Rugby y byddai'n "amhriodol gwneud sylw nes y byddwn wedi derbyn manylion ffurfiol unrhyw gamau sy'n cael eu cymryd".
Ond mewn datganiad ar y cyd brynhawn Llun, dywedodd World Rugby, yr RFU ac URC eu bod yn "poeni'n fawr am ein holl chwaraewyr, gan gynnwys cyn-chwaraewyr".
Chwaraeodd Mr Woodard i Bont-y-pŵl, Glyn Ebwy a Phontypridd, gan hefyd ennill pum cap i dîm Rygbi'r Gynghrair Cymru a chwarae ar y daith i Dde Affrica yn 1998.
Honnodd iddo ddioddef ei gyfergyd cyntaf yn 11 oed.
Bellach yn 45 oed, dywedodd: "Mae'r realiti llwm o gael diagnosis o ddementia cynnar yn eich 40au, gyda phlant ifanc, yn golygu ymhen pum mlynedd, 10 mlynedd, 15 mlynedd efallai na fydda i'n gwybod pwy ydyn nhw."
Soniodd am drafod y mater gyda'i bartner wrth i'w blant chwarae yn yr ystafell nesaf.
"Roedd fy mhartner yn esbonio, 'Rydw i eisiau i'r plant dy weld gymaint â phosib, mor aml â phosib a gwneud cymaint o bethau cofiadwy â phosib oherwydd mae siawns ymhen 10 mlynedd, 15 mlynedd nad wyt ti hyd yn oed yn mynd i wybod pwy ydyn nhw'.
Clywodd ei fab naw oed, Leo, y drafodaeth.
"Fe ffrwydrodd fewn i ddagrau a'm cofleidio ac yn gwrthod fy ngadael i am rai munudau," meddai Mr Woodard.
Dywedodd Mr Woodard, sy'n enedigol o Bontypridd, a gafodd ddiagnosis y llynedd, ei fod yn ymwybodol o eraill yn y gêm sydd mewn sefyllfa debyg i'w hun.
"Y rheswm nad ydyn nhw wedi mynd yn gyhoeddus yw oherwydd eu bod yn cael trafferth dweud wrth eu plant, eu gwragedd, eu teulu."
Wrth siarad â chwaraewyr eraill mae wedi eu sicrhau nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain.
A rhybuddiodd: "Bydd mwy."
Ychwanegodd ei bod yn anodd dweud wrth bobl oedd wedi chwarae ar lefel uchaf y gamp beth oedd o'u blaenau.
"Yn anffodus mae'r gêm yn mynd i gael gwared ar eu mwynhad o'u bywyd wedyn," meddai.
Dywedodd Mr Woodard ei fod wedi mynd o fod â chof "perffaith" i ailadrodd ei hun yn rheolaidd.
"Mae fy nghof, fy mhrosesau meddwl, yn prinhau'n raddol a gallaf weld hynny," meddai.
"Cefais ddiagnosis flwyddyn yn ôl a gallaf weld ei fod wedi gwaethygu dros y flwyddyn ddiwethaf.
"Rwy'n gobeithio arafu'r cyflymiad hwnnw cymaint â phosib. Rwy'n aml yn anghofio teithiau ar adegau hanfodol, yn ailadrodd fy hun mewn sgyrsiau, yn ailadrodd fy hun hanner awr yn ddiweddarach, awr yn ddiweddarach, yn anghofio sgyrsiau, pethau rydw i wedi'u gwneud, yn y gorffennol yn gyfan gwbl nawr.
"Er pum mlynedd, 10 mlynedd yn ôl roedd gen i'r hyn y byddwn yn ei ystyried yn gof perffaith o bethau."
'Angen newid diwylliant'
Hefyd yn rhan o'r camau cyfreithiol mae cyn-chwaraewr tîm dan-20 y Dreigiau a Chymru, Adam Hughes.
Mae angen "newid diwylliant llwyr" mewn rygbi, meddai'r chwaraewr 32 oed.
Ychwanegodd ei fod yn gwybod am chwaraewyr proffesiynol ac amatur sy'n credu bod ganddyn nhw symptomau niwed i'r ymennydd ond sy'n dal i chwarae.
"Nid yw rhai pobl eisiau ei gredu, nid ydyn nhw eisiau gwybod bod ganddyn nhw broblemau, oherwydd mae hynny'n eu dychryn," meddai.
"Byddai'n well gan bobl eraill beidio â gwybod bod ganddyn nhw e oherwydd maen nhw eisiau parhau i chwarae."
Mae Mr Woodard a Mr Hughes am i'r cyfnod gorffwys lleiaf ar gyfer chwaraewyr cyfergyd gael ei ymestyn i dair neu bedair wythnos.
Dywedodd Mr Hughes, sydd bellach yn bennaeth ar gwmni cyngor ariannol, fod angen opsiynau cyflogaeth eraill ar y chwaraewyr presennol, fel nad oes rhaid iddynt barhau i chwarae.
"Yn anffodus rygbi yw'r unig beth y gallant ei wneud ar hyn o bryd," meddai.
Dywed cyfreithwyr sy'n cynrychioli'r cyn-chwaraewyr fod yr awdurdodau rygbi:
Wedi methu â chymryd camau priodol i roi sylw i ddiogelwch chwaraewyr ac iechyd yr ymennydd pan ddaeth y gêm yn broffesiynol;
Heb wneud digon i rybuddio chwaraewyr am beryglon niwed i'r ymennydd;
Yn esgeulus am beidio â thorri faint o gyswllt sy'n digwydd mewn sesiynau hyfforddi;
Wedi methu â lleihau nifer y gemau sy'n cael eu chwarae;
Wedi torri amser gorffwys chwaraewyr â chyfergyd yn hytrach na'i ymestyn;
Wedi gwrthod cael neu ddilyn cyngor ar risg anaf parhaol i'r ymennydd;
Anwybyddu tystiolaeth nad yw cyfergyd bob amser yn amlwg ar y dechrau a methu â chynnal asesiadau digonol yn ystod gemau;
Wedi methu â chyflwyno rheolau i leihau nifer yr eilyddion all ddod ymlaen yn ystod gêm.
Mewn datganiad ar y cyd brynhawn Llun dywedodd World Rugby, yr RFU ac URC: "Rydyn ni'n poeni'n fawr am ein holl chwaraewyr, gan gynnwys cyn-chwaraewyr, ac nad ydym byth yn sefyll yn llonydd o ran llesiant.
"Mae ein strategaethau i atal, nodi a rheoli anafiadau pen yn cael eu gyrru gan angerdd i ddiogelu ein chwaraewyr ac yn seiliedig ar y wyddoniaeth, y dystiolaeth a'r arweiniad arbenigol annibynnol diweddaraf."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2022