Coedelái: Dyn ifanc wedi colli 'ffrindiau da'

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enwau'r tri dyn ifanc fu farw mewn gwrthdrawiad rhwng car a bws yn Rhondda Cynon Taf nos Lun.

Roedd Callum Griffiths yn 19 oed ac yn dod o Porth, roedd Jesse Owen a Morgan Smith yn 18 oed, a'r ddau yn dod o Donypandy.

Cafodd dau ddyn arall, 18 ac 19 oed, eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol wedi'r digwyddiad.

Roedd Morgan Smith yn bencampwr bocsio amatur ieuenctid Cymru.

Mae'r BBC hefyd yn deall fod y rhai a oedd yn y car ar eu ffordd yn ôl o angladd.

Roedd Osian Lane, 18, yn un o'r rhai fu'n gosod blodau ger y safle yng Nghoedelái ddydd Mawrth.

Dywedodd Mr Lane ei fod yn bocsio gydag un o'r tri, a'i fod yn eu gweld nhw tua thair gwaith yr wythnos.

Ychwanegodd ei fod wedi colli "ffrindiau da".