Coedelái: Cyhoeddi enwau tri dyn fu farw mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enwau'r tri dyn ifanc fu farw mewn gwrthdrawiad rhwng car a bws yn Rhondda Cynon Taf nos Lun.
Roedd Callum Griffiths yn 19 oed ac yn dod o Porth, roedd Jesse Owen a Morgan Smith yn 18 oed, a'r ddau yn dod o Donypandy.
Cafodd dau ddyn arall, 18 ac 19 oed, eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol wedi'r digwyddiad yng Nghoedelái.
Fe gafodd dau berson eu trin am fân anafiadau.
Mae'r BBC yn deall fod y rhai a oedd yn y car ar eu ffordd yn ôl o angladd pan darodd y car a'r bws yn erbyn ei gilydd.
Dywedodd tad Morgan Smith, a oedd yn bencampwr amatur ieuenctid Cymru: "Fy machgen bach... Y mab mwyaf perffaith allai rhywun freuddwydio amdano.
"Methu ti gymaint yn barod," ychwanegodd Daniel Chalfont ar Facebook. "Dwi ddim yn gwybod sut y bydda i'n byw hebdda ti. Wedi torri."
Dywedodd yr heddlu eu bod wedi eu galw i'r digwyddiad rhwng bws a char Audi A1 ar Stryd Elwyn am tua 19:00 nos Lun.
Yn ôl y gwasanaeth ambiwlans, cafodd saith ambiwlans a thri meddyg eu hanfon i'r digwyddiad ger Tonyrefail.
Roedd y ffordd ynghau am gyfnod, ond roedd wedi ailagor brynhawn ddydd Mawrth.
Dywedodd y Prif-arolygydd Esyr Jones o Heddlu De Cymru bod meddyliau'r llu gyda "phawb sydd wedi eu heffeithio gan y digwyddiad trasig yma".
Ychwanegodd bod swyddogion arbenigol yn rhoi cymorth i'r teuluoedd yn ystod y cyfnod "ofnadwy o anodd iddyn nhw".
Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un welodd y gwrthdrawiad, neu naill un o'r cerbydau cyn y digwyddiad, i gysylltu â nhw.
Mae cwmni Stagecoach yn ne Cymru wedi cadarnhau bod un o fysiau'r cwmni wedi bod mewn gwrthdrawiad.
Ychwanegodd y cwmni eu bod yn "rhoi cefnogaeth i'r gyrrwr ar yr adeg anodd hon a'u bod yn meddwl am y bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiad".
Ysgolion 'wedi ein llorio'
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd penaethiaid Ysgol Gymunedol Porth, Ysgol Gymunedol Tonyrefail ac Ysgol Nantgwyn eu bod "wedi ein llorio gan y newyddion" am eu cyn-ddisgyblion.
"Mae ein disgyblion - o'r presennol a'r gorffennol - wrth galon ein cymunedau ac mae'n anhygoel o drist fod bywydau llawn potensial wedi cael eu cymryd yn rhy fuan," meddai'r datganiad.
"Mae disgyblion a staff o'n holl ysgolion yn cydymdeimlo o waelod calon gyda theuluoedd y cyn-ddisgyblion sydd wedi marw."
Ychwanegodd eu bod yn gweddïo dros y rheiny sydd wedi'u hanafu, a bod cymorth yn cael ei roi mewn lle er mwyn cefnogi staff a disgyblion sydd wedi'u heffeithio gan y digwyddiad.
Mewn teyrnged i Morgan Smith, dywedodd Bocsio Cymru eu bod yn "drist o glywed am y ddamwain drasig sydd wedi digwydd yng Nghoedelái a marwolaeth Morgan Smith a'i ffrindiau".
"Daeth Morgan yn Bencampwr Ieuenctid Cymru y llynedd a chynrychiolodd Gymru yng nghystadleuaeth Tair Gwlad Prydain Fawr lle enillodd fedal efydd.
"Mae ein meddyliau gyda'r holl deuluoedd a ffrindiau, pawb oedd yn rhan o glwb bocsio Morgan, Maerdy ABC, a'r aelodau o'r gymuned focsio oedd yn ei adnabod."
Mewn teyrnged, dywedodd Clwb Bocsio Maerdy y byddai Morgan Smith yn gadael "gwagle anferth yn ein bywydau".
"Morgan oedd y person anwylaf y gallech chi erioed ddymuno cyfarfod ag ef, roedd ganddo wastad amser i bobl ac roedd yn bleser ei gael yn cynrychioli ein clwb gan ei fod yn rhan fawr o deulu Clwb Bocsio Maerdy."
'Ergyd fawr i'r ardal'
Dywedodd y Cynghorydd Danny Grehan, sy'n cynrychioli ardal Coedelái fel aelod Dwyrain Tonyrefail ar Gyngor Rhondda Cynon Taf, ei fod yn ergyd fawr i'r ardal.
"Mae colli bywyd mewn damwain fel hyn wastad yn mynd i fod yn ergyd drom, nid yn unig i'r teuluoedd sydd yn amlwg yn cael eu heffeithio, ond i'r gymuned ehangach hefyd.
"Ond fel mae cymunedau clos yn dueddol o'i wneud mewn sefyllfaoedd fel hyn, fyddwn ni'n dod at ein gilydd."
Dywedodd Alex Davies-Jones, Aelod Seneddol Pontypridd, bod y digwyddiad wedi "ein syfrdanu ni gyd".
"Rydyn ni'n galaru am Jesse, Morgan a Callum ond hefyd yn gweddïo dros y rhai sydd dal yn yr ysbyty."
Ychwanegodd Ms Davies-Jones, sy'n byw yn y pentref, bod y gymuned leol yn un "clos iawn".
"Mae hi'n mynd i gymryd amser hir iawn i ni ddod dros y ddamwain gwbl erchyll yma... Rydyn ni gyd yn ceisio cefnogi'r teuluoedd sydd wedi eu heffeithio."
Mewn neges ar wefan cymdeithasol, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford bod ei "feddyliau gyda'r teuluoedd" wedi'r digwyddiad "trasig" yma.
Nododd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru, ei fod yn cydymdeimlo â'r gymuned gyfan a'r unigolion "dewr" a fu'n ymateb i'r digwyddiad.
'Amser ofnadwy i bawb'
Roedd Dirprwy Faer Tonyrefail, y Cynghorydd Dan Owen-Jones, yn un o'r rhai cyntaf i gyrraedd y safle.
"Mae'n amser ofnadwy i bawb. Yr adeg hon o'r flwyddyn mae hyd yn oed yn waeth," meddai wrth siarad â'r BBC.
"Ro'n i yna yn fuan [wedi'r digwyddiad] - am ryw 19:02. Fe ges i alwad gan un o'r cymdogion - fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad y tu allan i'w cartref. Ro'n i yna yn ceisio gwneud fy ngorau i reoli'r traffig.
"Wedyn roedd yna lot fawr o deulu a ffrindiau. Roedd hi'n ofnadwy gweld y teulu ond yn ddealladwy - petai yn rhywun o'm teulu i fe fyddwn i'n dymuno bod yno."
Dywedodd un dyn sy'n byw yn lleol wrth BBC Cymru bod "ambell i ddamwain wedi digwydd yn yr ardal, a bod trigolion wedi cael digon".
Ychwanegodd unigolyn arall: "Does dim man croesi yno, dim twmpathau cyflymder, ac mae'r cyflymder y mae rhai yn teithio ar y ffordd yma yn ofnadwy."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2023