Mark Drakeford yn cyhoeddi ei fod yn ymddiswyddo fel Prif Weinidog

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi ei fod yn ymddiswyddo fel Prif Weinidog Cymru.

Mewn cynhadledd i'r wasg annisgwyl, fe gyhoeddodd Mr Drakeford y bydd ei gyfnod fel arweinydd Llafur Cymru yn dod i ben yn y flwyddyn newydd.

Bydd yn parhau yn ei rôl fel Prif Weinidog tan y bydd ei olynydd yn cael ei benodi.

Dywedodd Mr Drakeford ei fod yn ffyddiog y bydd y broses i ddod o hyd i'w olynydd fel arweinydd Llafur Cymru "wedi dod i ben erbyn diwedd tymor y gwanwyn" ym mis Mawrth.

"Byddai hynny'n galluogi rhoi enw enillydd y gystadleuaeth honno i'r Senedd cyn toriad y Pasg."