a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Diolch am ddilyn

    Mae ein llif byw ar fin dod i ben am heddiw - diwrnod enfawr i wleidyddiaeth yng Nghymru wrth i'r prif weinidog gyhoeddi ei ymddiswyddiad.

    Mae Mark Drakeford wedi cael ei ddisgrifio fel prif weinidog mwyaf adnabyddus Cymru oherwydd ei amlygrwydd yn ystod y pandemig.

    Mae'r cyhoeddiad hefyd wedi'i ddisgrifio fel "cau pennod nid yn unig i Mark Drakeford ac i’r Blaid Lafur Gymreig, ond i holl stori datganoli hyd yma".

    Bydd yn gadael fel arweinydd Llafur Cymru a Phrif Weinidog Cymru ym mis Mawrth, a bydd cyfarfod heno i drafod yr amserlen o ran dewis olynydd.

    I ddarllen y stori'n llawn ac yn gynnil, cymrwch olwg ar yr erthygl ar ein hafan.

    Wrth gwrs, bydd hynt a helynt y ras arweinyddol yn dechrau'n syth, a bydd modd dilyn hynny yn llawn ar Cymru Fyw.

    Diolch am ddilyn, a hwyl am y tro.

    Mark Drakeford
  2. James O'Brien: 'Hyfryd bod yng nghwmni Drakeford'

    LBC

    Wrth gyflwyno ei raglen ar orsaf radio LBC, mae’r cyflwynydd James O’Brien wedi cyfeirio at Mark Drakeford fel y "gwleidydd mwyaf agos atoch" y mae erioed wedi cyfarfod.

    Dywedodd yn ystod ei raglen fore Mawrth: “Dwi wedi cyfweld nifer fawr o wleidyddion, a does dim un yn debyg i Mark Drakeford.

    “Roedd Mark Drakeford yn gallu cerdded i mewn i ystafell heb i neb sylwi - mae’n berson mor ddiymhongar.

    “Dwi’n credu bod y tawelwch ‘na yn rhyfeddol wrth gymharu â beth oedd Boris Johnson yn ei wneud yn ystod Covid.

    “Mae gan Gymru nifer o broblemau - y gwasanaeth iechyd, dyw Llafur heb gyrraedd unrhyw iwtopia yng Nghymru - ond mae’n rhaid i mi ddeud mai fo ydi’r gwleidydd mwyaf agos atoch chi dwi erioed wedi cyfarfod.

    “Roedd o’n beth hyfryd i fod yn ei gwmni.”

    Mark Drakeford
  3. 'Cyllideb anodd iawn i'w gosod' yr wythnos nesaf

    Dywedodd Mark Drakeford hefyd yn ei gyfweliad gyda BBC Cymru y prynhawn 'ma y bydd y gyllideb a fydd yn cael ei chyhoeddi'r wythnos nesaf yn "gyllideb anodd iawn i'w gosod".

    Fe wnaeth Mr Drakeford awgrymu'n gryf na fyddai'n cynyddu treth incwm, ond nid oedd yn fodlon cadarnhau na fyddai'n gwneud hynny.

    "Mae Llywodraeth Cymru yn gorfod gofyn i'w hunain, a'i dyma'r amser cywir i dynnu mwy o arian o bocedi pobl, hyd yn oed er mwyn llenwi'r bylchau yn ein gwasanaethau cyhoeddus?"

  4. Cymru 'wedi bod yn barod i wneud pethau arloesol'

    Dywedodd Mark Drakeford nad oedd yr ymateb negyddol i bolisi 20mya Llywodraeth Cymru yn ffactor o gwbl yn ei benderfyniad.

    "Y polisi 20mya yw'r polisi cywir - fe fydd e'n achub bywydau," meddai.

    "Pan fydd pobl yn edrych yn ôl ar hyn, dwi'n meddwl y byddan nhw'n gweld fod hwn yn esiampl arall o Gymru gyda llywodraeth flaenllaw.

    "Rwy'n meddwl y bydd pobl yn edrych 'nôl a dweud 'pam yr holl ffỳs?'

    "Rydw i'n falch o gael fy nghysylltu gyda llywodraethau yng Nghymru sydd wedi bod yn barod i wneud pethau arloesol - arwain y ffordd ble doedd eraill ddim yn barod i fynd, boed hynny'n rhoi organau, gwahardd cosbi plant yn gorfforol, 20mya neu brydau am ddim yn ein hysgolion cynradd.

    "Rydyn ni wedi torri tir newydd yng Nghymru gyda gwleidyddiaeth flaengar."

    Mark Drakeford
  5. Yr etholiad cyffredinol oedd wrth wraidd y penderfyniad

    Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru y prynhawn 'ma dywedodd Mark Drakeford ei fod wedi gwneud y penderfyniad i ymddiswyddo er mwyn cael arweinydd newydd mewn lle cyn yr etholiad cyffredinol nesaf.

    Dywedodd fod etholiad cyffredinol - y mae disgwyl iddi gael ei chynnal yn 2024 - wedi bod "ar fy meddwl".

    "Rwy'n meddwl ei bod hi'n well, yng Nghymru, fod pobl yn 'nabod y person fydd yn edrych i gydweithio â Keir Starmer," meddai.

    "Oherwydd wrth gwrs, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd buddugoliaeth i Lafur yn yr etholiad cyffredinol hwnnw."

  6. Drakeford i barhau fel aelod o'r Senedd tan 2026

    Mewn cyfweliadau mae Mark Drakeford wedi cadarnhau y bydd yn aros fel aelod o'r Senedd tan yr etholiad nesaf yn 2026.

    Felly bydd yn ymddiswyddo fel arweinydd Llafur Cymru ac fel Prif Weinidog Cymru yn y flwyddyn newydd, ond bydd yn dal i gynrychioli ei etholaeth tan ddiwedd tymor y Senedd.

    Mae Mr Drakeford wedi cynrychioli etholaeth Gorllewin Caerdydd ym Mae Caerdydd ers 2011.

    Mark Drakeford
  7. Gweinidog 'bendant ddim' yn y ras arweinyddiaeth

    Mae un gweinidog wedi dweud yn barod na fydd hi'n un o'r ymgeiswyr ar gyfer yr arweinyddiaeth, sef Lesley Griffiths.

    Dywedodd y gweinidog dros faterion gwledig a gogledd Cymru y bydd hi "bendant ddim" yn rhan o'r ras i olynu Mark Drakeford.

    "Dwi'n meddwl bod Mark yn, ac wedi bod, yn arweinydd anhygoel," meddai Ms Griffiths.

    "Yn amlwg mae 'na dri mis i fynd, ac mae wedi gwneud yn amlwg iawn bod gennym ni andros o lot o waith i'w wneud cyn iddo gamu o'r neilltu."

    Lesley Griffiths
  8. Prif weinidog cyntaf Cymru 'braidd yn siomedig'

    Mae Alun Michael wedi dweud wrth BBC Cymru ei fod "braidd yn siomedig" i glywed fod Mark Drakeford yn ymddiswyddo fel arweinydd Llafur Cymru a rôl y prif weinidog.

    Mr Michael oedd prif weinidog cyntaf Cymru, ac mae bellach yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru.

    "Mae Mark wedi bod yn arweinydd sydd wedi dod â theimlad cryf iawn o egwyddor a deallusrwydd," meddai.

    "Ond mae'n rhaid i bob amser mewn swydd ddod i ben."

    Video content

    Video caption: Dywedodd Alun Michael ei fod "braidd yn siomedig" i glywed fod Mark Drakeford yn ymddiswyddo
  9. 'Arweinyddiaeth ragorol ac ymroddiad diwyro'

    Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

    Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ei fod eisiau "mynegi fy ngwerthfawrogiad diffuant o’r arweinyddiaeth ragorol a’r ymroddiad diwyro y mae Mark Drakeford wedi’u dangos yn ystod ei gyfnod fel prif weinidog".

    “Trwy gydol ei amser yn y swydd, mae Mark wedi llywio Cymru drwy gyfnod heriol - dim byd dyfnach na phandemig Covid-19.

    "Mae wedi hyrwyddo achos llywodraeth leol yn gyson; mae wedi cydnabod ei rôl ganolog wrth lunio ein cymunedau ac wedi dangos ei werthfawrogiad cyson o werth a phwysigrwydd gwasanaethau lleol.

    “Bydd ei etifeddiaeth o wasanaeth i Gymru yn parhau, ac edrychwn ymlaen at adeiladu ar y seiliau cadarn ar gyfer cysylltiadau rhwng llywodraethau lleol a Chymru er mwyn ein holl gymunedau."

    Andrew Morgan
  10. 'Esgidiau mawr iawn i’w llenwi'

    Dros Ginio

    BBC Radio Cymru

    Hefyd yn cyfrannu ar Dros Ginio oedd Owain Williams - aelod o'r Blaid Lafur a chyn-ymgeisydd i’r senedd ym Mae Caerdydd - a fu'n trafod ble i fynd nesaf o ran yr arweinyddiaeth.

    “Bydden i yn dechrau gyda'r swydd ddisgrifiad, a beth sydd angen ar Gymru," meddai.

    "Dwi'n meddwl bod hwnna yn swydd ddisgrifiad hollol, hollol wahanol i beth sydd wedi bod yna am y pum mlynedd ddiwethaf, os nad y 25 mlynedd ddiwethaf.

    "I fi dyna'r man cychwyn - ffeindio'r person all gamu i’r esgidiau yna, ac maen nhw'n esgidiau mawr iawn i’w llenwi."

    Mark Drakeford

    Ychwanegodd: "Mae angen ni fod yn wlad fwy llewyrchus – dwi’n meddwl bod pawb yn derbyn hynna er mwyn i ni wneud beth ni'n dymuno ei wneud yn y wlad.

    "Fel rhan o hwnna mae angen i ni fod yn uchelgeisiol - mae angen cael gweledigaeth.

    "Mae angen y gallu i weinyddu yn effeithiol ac mewn manylder.

    "Mae angen yr holl lot yna. Mae’n swydd anodd, ond dyna sydd eisiau arnom ni."

  11. Pum mlynedd y prif weinidog mewn lluniau

    Wrth i Mark Drakeford gyhoeddi ei fod yn gadael fel prif weinidog, mae'r lluniau yma yn dangos bod cryn dipyn wedi digwydd yn ystod ei bum mlynedd wrth y llyw

    Mark Drakeford
  12. Teyrnged sydyn i'r prif weinidog yn y Senedd

    Wrth agor busnes y Senedd heddiw fe wnaeth y Llywydd Elin Jones roi teyrnged sydyn i Mark Drakeford.

    Ond dywedodd mai "busnes fel arfer" fyddai hi er gwaethaf y cyhoeddiad.

    "Roedd gennym ni brif weinidog yn ateb Cwestiynau’r Prif Weinidog ddoe, a bydd gennym ni'r un prif weinidog yn ateb pan fyddwn ni'n cwrdd eto ym mis Ionawr," meddai.

    "Am nawr, gadewch i ni ddiolch i Mark am ei arweinyddiaeth o Lywodraeth Cymru hyd yma," meddai.

    Elin Jones
  13. Amseru'r cyhoeddiad yn 'dipyn o syndod'

    Vaughan Roderick

    Golygydd Materion Cymreig y BBC

    Video content

    Video caption: Yn ôl Vaughan Roderick, mae cyhoeddiad y Prif Weinidog yn "dipyn o syndod"
  14. Drakeford 'ynghanol popeth ers 20 mlynedd'

    Dros Ginio

    BBC Radio Cymru

    Ar Dros Ginio dywedodd y sylwebydd gwleidyddol Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru fod hyn yn ddiwedd cyfnod am fod Mark Drakeford wedi bod "ynghanol popeth ers 20 mlynedd".

    “Mae yna drafod di-baid wedi bod ynglŷn â pha mor hir fyddai y prif weinidog yn parhau yn ei swydd, a phob math o ddyfalu a sgyrsiau, ond mi oedd cael yr achlust bore 'ma bod yna gyhoeddiad pwysig yn dod, a chlywed beth oedd y cyhoeddiad - mi oedd yn dipyn o foment," meddai.

    "Yn rhannol oherwydd mae wedi bod yn ffigwr mor ganolog yng ngwleidyddiaeth Cymru, nid yn unig yn ei gyfnod fel prif weinidog, ond cyn hynny yn ei wahanol swyddi yn y llywodraeth, a chyn hynny fel cynghorydd i Rhodri Morgan.

    "Hynny yw, mae o wedi bod ynghanol popeth ers 20 mlynedd, felly mae hwn yn gau pennod nid yn unig i Mark Drakeford ac i’r Blaid Lafur Gymreig, ond i holl stori datganoli hyd yma."

    Richard Wyn Jones

    Ychwanegodd: “Mae'n bendant yn newid cenhedlaeth, ac yn newid sylweddol iawn.

    "'Sa ddim amheuaeth amdani, 'da ni'n meddwl am gymeriadau mawr fel Rhodri Morgan, a Carwyn Jones wedi bod yn ffigwr amlwg iawn - ond does yr un gwleidydd datganoledig wedi cael yr un proffil â Mark Drakeford.

    "Oherwydd Covid, oherwydd ei rôl ganolog yn y cyfnod arbennig od iawn, iawn yna.

    "I lawer o bobl, er gwell neu er gwaeth, mae wedi dod i ymgorffori datganoli, ac felly mae hwn yn newid enfawr ac mi fydd yn cymryd llawer i ddod i arfer â’r peth."

  15. Yr academydd a ddaeth yn Brif Weinidog

    Mae'n debyg bod canfod ei hun yn arweinydd ei blaid ac yn brif weinidog ar Gymru yn gymaint o syndod i Mark Drakeford ag i'r bobl sydd wedi ei adnabod dros y blynyddoedd.

    Mewn byd o wleidyddion ac arweinwyr lliwgar ac uchel eu cloch mae Mark Drakeford yn cael ei ddisgrifio fel dyn tawel, gwylaidd, gofalus, ond sicr o'i hun serch hynny.

    Pan olynodd Carwyn Jones fel arweinydd Llafur yng Nghymru yn 2018 fyddai o na neb arall wedi gallu rhagweld y byddai'n cael mwy o blatfform nag o bosib unrhyw brif weinidog o'i flaen yng Nghymru yn sgil y pandemig.

    Darllenwch ei hanes yn llawn yn yr erthygl ar ein hafan.

    Mark Drakeford
  16. Mark Drakeford yn 'brif weinidog anhygoel'

    Mae’r Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, Lesley Griffiths wedi disgrifio Mark Drakeford fel “prif weinidog anhygoel sydd wedi arwain Cymru drwy gyfnodau eithriadol".

    Ychwanegodd Ms Griffiths ei fod wedi "gwasanaethu pobl Cymru gydag urddas, trugaredd ac ymroddiad".

    "Nid oes modd anghofio ei arweinyddiaeth drwy gyfnod y pandemig.

    "Mae Mark yn ysbrydoliaeth, mae’n ddyn gonest ac mae wedi bod yn anrhydedd cael bod yn rhan o’i gabinet," meddai.

    Lesley Griffiths AS
  17. 'Dangosodd Mark Drakeford barch at yr iaith'

    Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

    Mae Cymdeithas yr Iaith wedi diolch i Mark Drakeford am ei wasanaeth, gan osod tri nod ac ymrwymiad er lles yr iaith Gymraeg ar gyfer ei olynydd.

    Dywedodd Tamsin Davies, is-Gadeirydd y gymdeithas: “Dangosodd Mark Drakeford barch at yr iaith ac esiampl i eraill trwy ddysgu’r Gymraeg cyn dod yn Brif Weinidog.

    "Gwnaeth yr iaith yn amcan penodol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, hefyd.

    “Yn ei Gytundeb Cydweithio uchelgeisiol gyda Phlaid Cymru, lluniodd ymrwymiadau a allai fod o fudd i’r Gymraeg a’n cymunedau o’u gweithredu, fel cyflwyno cynigion Deddf Addysg Gymraeg, ymrwymo i gyhoeddi papur gwyn ar yr hawl i dai digonol er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng tai, a chomisiynu adroddiad arbenigol ar ddyfodol darlledu yng Nghymru.”

    Mae'r mudiad wedi gosod tri nod i'w olynydd, sef cyflwyno Deddf Eiddo sy'n cydnabod mai cartref yw eiddo yn hytrach nag ased masnachol yn nhymor y Senedd yma, gosod nod bod 100% o blant Cymru yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050, a sefydlu Awdurdod Darlledu Cysgodol yn unol ag argymhellion Adroddiad Doel Jones ar ddyfodol darlledu.

  18. 'Wedi gwneud y gorau o sefyllfa anodd' gyda Covid

    Dros Ginio

    BBC Radio Cymru

    Hefyd ar Dros Ginio bu Dr Phil White o gymdeithas feddygol BMA Cymru yn trafod ymateb Mark Drakeford i'r pandemig Covid.

    “O'dd e’n fwy gwyliadwrus a gofalus am wneud pethe," meddai.

    "Roedd yn gwrando ar ei brif swyddog meddygol, ac er bod yna broblemau yng Nghymru fel ymhobman arall, fi’n credu fe wnaeth e y gorau o sefyllfa anodd doedd neb wedi dod ar draws o'r blaen.

    “Roedd e yn fwy gwyliadwrus ac roedd e yn gwrando ar y farn feddygol, ac er bod ganddon ni'r problemau yma gyda'r offer PPE ar y dechrau, rwy’n credu y gwnaethon nhw eu gorau.

    "O ran y gwasanaeth iechyd yn gyffredinol, pan nes i ddechrau roedd Mark Drakeford yn weinidog iechyd, felly ni wedi cydweithio dros y blynyddoedd ac mae’r sefyllfa gyda'r gwasanaeth iechyd ar y foment yn anodd iawn.

    "Ond mae hwnna dipyn i wneud efo cyllid ac ariannu, sydd efallai ddim yn dod cystal o Lundain."

    Dr Phil White
  19. Ysgrifennydd Cymru i 'eistedd yn ôl a gwylio gyda diddordeb'

    Mae Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies, wedi “dymuno’r gorau i Mark Drakeford yn ei ymddeoliad.”

    Ychwanegodd fod perthynas y ddau wastad wedi bod yn “un barchus, ac rwy’n ei ganmol am y gwaith caled a'r hyn mae wedi ei gyflawni dros y blynyddoedd.

    “Dydyn ni heb gyd-weld ar bopeth, a dyw hynny ddim yn syndod i neb, ond dwi wir yn dymuno’r gorau iddo, a dwi’n gobeithio y bydd yn gallu mwynhau ychydig o amser haeddiannol gyda’i deulu pan fydd yn camu i lawr.”

    Pan ofynnwyd i Mr Davies am bwy y byddai’n dymuno ei weld yn olynu Mr Drakeford, dywedodd nad oedd am gael ei dynnu i mewn i’r broses ond y byddai’n “eistedd yn ôl a gwylio gyda diddordeb mawr".

    Video content

    Video caption: Vaughan Roderick fu'n siarad â David TC Davies ar Dros Ginio

    Ychwanegodd Ysgrifennydd Cymru ar Dros Ginio: "Mae’n swydd anodd i weithio yn front line gwleidyddiaeth, a gobeithio gall e wario dipyn bach mwy o amser gyda'i deulu.

    "Ond yn amlwg fi ishe gweld y prif weinidog nesaf yn ailystyried rhai o bolisïau'r llywodraeth Llafur, yn enwedig pethau fel yr 20mya, y penderfyniad i beidio adeiladu ffyrdd newydd ac i 'neud rhywbeth am y safonau gwarthus mewn addysg a’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru."

  20. 'Pwysig iawn asesu pum mlynedd Drakeford wrth y llyw'

    Dros Ginio

    BBC Radio Cymru

    Video content

    Video caption: Arweinydd Plaid Cymru fu'n ymateb i'r newyddion diweddaraf ar Dros Ginio

    Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth ar Dros Ginio: “Roedd hi’n gwbl ddisgwyliadwy y bydden ni’n clywed [am ymddiswyddiad] o fewn yr ychydig fisoedd nesaf.

    "Ond wrth gwrs, dyfalu, o fewn eiliadau yn troi i be' fydd yn digwydd nesaf, ond yn benodol, pwy fydd yn digwydd nesaf?

    "Mae Plaid Cymru wedi newid arweinyddiaeth o fewn cyfnod y cytundeb [cydweithio], ond cytundeb tair blynedd ydi hyn rhwng y ddwy blaid ac yn seiliedig ar ddelifro set benodol o amcanion polisi - dyna ydi’r bwriad o’r cychwyn a dyna fydd y bwriad o hyd.

    "Wrth edrych ymlaen, mae’n bwysig asesu lle 'da ni arni o ran Llywodraeth Llafur Cymru a be' mae hyn yn golygu i Gymru.

    "Mae’n bwysig iawn, wrth i ni edrych ymlaen at arweinydd llafur newydd a prif weinidog newydd i Gymru o fewn y misoedd nesaf, bo' ni’n asesu beth yn union sydd wedi digwydd dros y pum mlynedd ddiwethaf gyda Mark Drakeford wrth y llyw.

    "Os ydw i’n edrych ar yr hyn mae Llafur wedi'i wneud ar y materion maen nhw’n gyfrifol amdanynt - fel iechyd ac addysg - dydw i ddim yn gweld y budd byddwn i wedi licio ei gael."