Tân anferth ar stad ddiwydiannol Trefforest

Parhau mae'r ymdrechion fore Iau i reoli y tân anferth ar stad ddiwydiannol yn Nhrefforest ger Pontypridd.

Mae'r fideo yma yn dangos ymdrechion y gwasanaethau brys ar y safle ar Ffordd Hafren wrth i fwg anferth amgylchynu'r ardal.

Dywed rhai oedd gerllaw iddyn nhw glywed "ffrwydrad anferth".

Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub y De bod sawl criw ar draws y de wedi'u hanfon i ddiffodd y tân.