Person ar goll wedi tân mawr ar stad ddiwydiannol Trefforest

  • Cyhoeddwyd
Yr adeilad ar ol y tanFfynhonnell y llun, Wales news service

Mae un person yn parhau ar goll wedi tân mawr ar stad ddiwydiannol Trefforest ger Pontypridd.

Cafodd tri pherson fân anafiadau a chafodd o leiaf un adeilad ei ddinistrio.

Cafodd "digwyddiad difrifol" ei gyhoeddi yn dilyn y ffrwydrad tua 19:00 nos Fercher.

Dywedodd pobl yn yr ardal eu bod wedi clywed ffrwydrad anferth.

Ychydig cyn hanner dydd, ddydd Iau, dywedodd yr heddlu a'r gwasanaeth tân mewn datganiad ar y cyd fod mwyafrif y tân bellach wedi'i ddiffodd, ond bod "pocedi bychan o dân yn parhau".

Maen nhw wedi lansio ymchwiliad i achos y fflamau.

Disgrifiad,

Gwyliwch yr ymdrechion i reoli'r tân anferth ar stad ddiwydiannol Trefforest - adroddiad Alun Thomas

Yn ôl y Dirprwy Brif Swyddog Tân, Dewi Rose, roedden nhw wedi'i galw i ffrwydrad yng Nghampfa Mindset ar Ffordd Hafren a chafodd nifer o griwiau eu hanfon i'r safle.

"Y wybodaeth ddiweddaraf yw bod adeilad deulawr mawr yn wenfflam ac ar fin cwympo," meddai.

Yn ôl Jonathan Sweet, o Ambiwlans Cymru, does dim angen trin cleifion ar y safle bellach.

Dyw'r digwyddiad ddim bellach yn cael ei drin fel un difrifol.

Mae disgwyl i'r strydoedd o amgylch stad ddiwydiannol Trefforest fod ar gau am gryn amser.

Disgrifiad,

Fideo o'r fflamau yn codi i'r awyr wedi'r ffrwydrad nos Fercher

O'r safle fore Iau - Alun Thomas, gohebydd BBC Cymru

Wrth iddi wawrio ar stad ddiwydiannol Trefforest, mae presenoldeb y gwasanaethau brys yn amlwg yma o hyd.

Mae goleuadau glas yn fflachio fel arwydd i bobl nad oes modd teithio ar hyd yr A473 rhwng Ton-teg a chyffordd Glan Bad yr A470.

Fel arfer byddai'r ffordd yn brysur iawn ben bore wrth i bobl geisio cyrraedd eu gwaith yng Nghaerdydd a thu hwnt.

Yn ôl y Gwasanaeth Tân mae adeilad deulawr "mewn peryg o ddisgyn" ac mae criwiau o Gaerdydd, Casnewydd ac ar draws y cymoedd yn rhan o'r ymdrechion i ddiffodd y tân.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Ambiwlans eu bod wedi trin tri chlaf ar y safle.

Fe gadarnhaodd Heddlu'r De nad oedd adroddiadau o anafiadau difrifol ond bod un person ar goll.

Nos Fercher roedd yna rybudd i drigolion lleol gau eu drysau a ffenestri.

Cafodd busnesau wybod nad oedd modd iddyn nhw weithredu fel arfer wrth i ffyrdd cyfagos gael eu cau.

Ffynhonnell y llun, Joseph Barker

Mae Ffordd Hafren yn gartref i nifer o fusnesau gan gynnwys safle gwerthu ceir, campfa a siop anifeiliaid anwes.

Clywed am y ffrwydrad drwy'r cyfryngau cymdeithasol wnaeth Phil Thomas, perchennog Bragdy Twt Lol.

"Oni'n edrych ar y lluniau cylch cyfyng bore ma' a chi'n gallu gweld flach oren sef adlewyrchiad o'r ffrwydriad, ac ryw eiliad neu ddau yn hywrach chi'n gallu clywed y ffrwydriad a bach o lwch yn symud," ychwanegodd.

Disgrifiad,

Cafodd y ffrwydrad ei ddal ar gamera CCTV Bragdy Twt Lol, sydd ar yr un stad ddiwydiannol

Dywedodd Lucy Artiss, sy'n berchen ar fusnes tatŵs ei bod hi "wedi colli popeth" ond bod pawb wedi llwyddo i ddianc yn ddianaf.

"Dwi'n teimlo'n ddiymadferth i fod yn onest ac mae'n edrych fel bod angen i mi chwilio am swydd arall," meddai.

Ychwanegodd perchennog y garej Esso cyfagos, Krishanaraj Nadarajah, ei fod wedi clywed "ffrwydrad enfawr" yn dod o'r ardal.

"Roedd o fel daeargryn... es i allan ac roedd y tân yn dechrau tyfu... roedd y tân yn enfawr ac roedd llwyth o fwg hefyd," meddai.

Mae neuadd gerddoriaeth Green Room wedi'i lleoli ar y stad. Dywedodd y perchennog Johnny Foxhall bod y ffrwydrad yn "sioc fawr" ac yn teimlo fel ei fod wedi cael ei "fwrw yn ei gefn".

"Cafodd y drws ei daflu ar agor, a popeth yn siglo - es i allan a gweld glow oren a'r mwg yn codi. O'n i'n gallu gweld y fflamau o'r adeilad yma.

"'Dwi erioed wedi clywed swn fel yna o'r blaen."

Dywedodd Phill Jones o Lantrisant ei fod yn gyrru yn yr ardal am tua 19:15 pan glywodd "sŵn bang mawr".

"Aeth y fflamau yn bell i fyny i'r awyr. Nes i wyro'r car rywfaint ac fe wnaeth hynny ddychryn y mab," meddai.

"Y ffordd y cododd y fflam - roedd o fel tasai rhywbeth wedi ffrwydro."

Pynciau cysylltiedig