Leah Owen: 'Mi ges i gyfle i ddilyn fy mreuddwyd'
Mae un o ffigyrau amlycaf y byd canu Cymraeg, Leah Owen wedi marw yn 70 oed.
Yn un o'i hymddangosiadau cyhoeddus olaf fe siaradodd Leah Owen am ei mwynhad o hyfforddi cannoedd o blant a phobl ifanc.
Fis diwethaf cafodd ei hanrhydeddu gan Brifysgol Bangor, gan dderbyn gradd er anrhydedd Doethur mewn Cerddoriaeth am ei chyfraniad at Ddiwylliant, Cerddoriaeth a Chelfyddydau Cymru a'r Gymraeg.
"Mi ges i gyfle i ddilyn fy mreuddwyd, cael canu, cyfansoddi, arwain a hyfforddi ar hyd y blynyddoedd, a mwynhau hynny yng nghwmni cannoedd o blant a phobl ifanc talentog," meddai.
"Fel dywedodd rhywun, mae gan blant adenydd, a'n braint ni ydi dysgu iddyn nhw hedfan.
"Felly fy nghyngor i i chi, bobl ifanc heddiw, ydi y gallwch chithau hedfan.
"Er mor annhebygol ydi hynny i chi weithiau, daliwch ati a dilyn eich breuddwyd. Wyddoch chi byth lle allwch chi gyrraedd."
Fideo gan Brifysgol Bangor