Y gantores Leah Owen wedi marw yn 70 oed
- Cyhoeddwyd
Mae un o ffigyrau amlycaf y byd canu Cymraeg, Leah Owen wedi marw yn 70 oed.
Roedd hi wedi bod yn derbyn triniaeth am ganser ers peth amser.
Bu'n hyfforddwraig canu amlwg yn y byd cerdd dant yng Nghymru, gan hyfforddi unigolion a phartïon o bob oed.
Rhwng 1975-2001 recordiodd sawl albwm unigol ei hun i Recordiau Sain.
Er mai ym Môn y cafodd ei magu, roedd hi wedi ymgartrefu ers blynyddoedd yn ardal Prion, Dinbych.
Am ei chyfraniad "amhrisiadwy" i fywyd diwylliannol, ieithyddol a chymunedol yr ardal, enillodd Fedal Syr T H Parry Williams yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2010.
Fis diwethaf, cafodd ei hanrhydeddu gan Brifysgol Bangor am ei chyfraniad at Ddiwylliant, Cerddoriaeth a Chelfyddydau Cymru a'r Gymraeg.
Wedi graddio o'r brifysgol honno gyda gradd Baglor mewn Cerddoriaeth yn 1974, bu'n dysgu yn Ysgol Hirael, Bangor, Ysgol Uwchradd Dinbych, Ysgol Twm o'r Nant, Dinbych, a Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych a Chanolfan Iaith Sir Ddinbych.
Yn arweinydd ar sawl côr, fe gyhoeddodd sawl cyfrol o ganeuon hefyd, yn bennaf i oedrannau cynradd ar gyfer eisteddfodau a chyngherddau.
Bu hefyd yn cyflwyno ei sioe ei hun ar BBC Radio Cymru.
Yn un o'i hymddangosiadau cyhoeddus olaf, fe siaradodd Leah Owen am ei mwynhad o hyfforddi cannoedd o blant a phobl ifanc.
Fe roddodd araith ar ôl derbyn gradd er anrhydedd Doethur mewn Cerddoriaeth gan Brifysgol Bangor ym mis Rhagfyr.
"Mi ges i gyfle i ddilyn fy mreuddwyd, cael canu, cyfansoddi, arwain a hyfforddi ar hyd y blynyddoedd, a mwynhau hynny yng nghwmni cannoedd o blant a phobl ifanc talentog," meddai.
"Fel dywedodd rhywun, mae gan blant adenydd, a'n braint ni ydy dysgu iddyn nhw hedfan.
"Felly fy nghyngor i i chi, bobl ifanc heddiw, ydy y gallwch chithau hedfan.
"Er mor annhebygol ydy hynny i chi weithiau, daliwch ati a dilyn eich breuddwyd. Wyddoch chi byth lle allwch chi gyrraedd."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Yn rhoi teyrnged iddi ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd cyd-gyfarwyddwr Ysgol Glanaethwy, Cefin Roberts, fod Leah Owen wedi gwneud "cyfraniad enfawr i'r bywyd Cymraeg a Chymreig - yn enwedig i fyd Cerdd Dant a Chanu Gwerin".
"Cwsg yn dawel Leah. Eisteddfodwraig o'r siort ora. Welwn ni'm o'i thebyg eto," meddai.
Mae'n gadael ei gŵr, Eifion Lloyd Jones, a phedwar o blant - Angharad, Elysteg, Ynyr a Rhys.
Yn ôl trefnydd yr Ŵyl Gerdd Dant, John Eifion Jones, roedd cyfraniad Leah Owen yn un "enfawr" i gerdd dant a chanu gwerin.
"Mae effaith be' mae hi wedi'i wneud wedi cyrraedd ymhell tu hwnt i fyd cerdd dant a gwerin, tu hwnt i Gymru ac wedi cyrraedd llwyfannau byd eang," meddai.
"Mae tinc a nodwedd unigryw Leah i'w clywed ym mherfformiadau ein prif berfformwyr, mae ei chyfraniad yn aruthrol ac mae wedi cymryd cerdd dant a gwerin i lefel nad oedd o'r blaen.
"Mae safon popeth mae hi wedi bod ynghlwm ag o yn eithriadol."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mewn teyrnged dywedodd Eisteddfod yr Urdd fod Leah Owen "wedi rhoi oes o wasanaeth i fudiad yr Urdd a ieuenctid ei bro".
"Mae miloedd o blant wedi troedio llwyfannau Eisteddfod yr Urdd i ganu caneuon Leah dros y blynyddoedd, wrth iddynt ymddangos fel darnau gosod yn gyson.
"Ac er ei bod hi wedi beirniadu yn genedlaethol lawer tro, roedd Leah wastad yn dweud mai hyfforddi oedd orau ganddi hi.
"Roedd Leah'n un o Lywyddion Anrhydeddus Eisteddfod yr Urdd yn 2022, ac mae ein diolch yn fawr iddi am bob eiliad o'i hamser a'i chefnogaeth."
Ychwanegodd yr Eisteddfod Genedlaethol: "Yn arweinydd, hyfforddwr, beirniad a chystadleuydd, roedd cyfraniad Leah Owen i'r Eisteddfod a byd y pethe'n enfawr ac mae'i cholli hi heddiw'n ergyd fawr i ddiwylliant Cymru.
"Rydyn ni'n anfon ein cydymdeimladau dwysaf at Eifion a'r teulu yn eu galar."
'Penderfyniad yn perthyn iddi'
Yn siarad ar raglen Post Prynhawn dywedodd un o hoelion wyth y byd cerdd dant, Menai Williams, mai "ei dawn aruthrol i gael ystyr geiriau ar gerddoriaeth" oedd un o brif dalentau Leah Owen.
Ychwanegodd fod ei llais yn un "unigryw", er mai "fel gosodwraig y bydd yn ei chofio fwyaf".
"Oedd Leah wedi gosod i nifer o bobl ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan [er gwaethaf ei salwch], ac wedi cael llwyddiant mawr yna ac amryw wedi ennill.
"Roedd 'na rhyw benderfyniad yn perthyn iddi hefyd, ac nid yn unig wedi gosod ond wedi ymarfer hefo nhw hefyd.
"Oedd hi'n gallu uniaethu'i hun gyda phobl ifanc dwi'n meddwl, a dwi'n diolch bod y fflam ddaru hi ei ennyn yng nghalonnau gymaint ohonyn nhw yn siŵr o sicrhau dyfodol disglair i gerdd dant.
"Dwi'n diolch iddi am hynny."