Effaith drama Swyddfa'r Post 'ymhell tu hwnt i'r disgwyl'

Wrth i sgandal Swyddfa'r Post a meddalwedd Horizon gael sylw cenedlaethol yn y penawdau, mae un o'r newyddiadurwyr cyntaf i adrodd y stori wedi dweud bod y sylw diweddaraf "ymhell tu hwnt i'r disgwyl".

Roedd Sion Tecwyn yn newyddiadurwr gyda BBC Cymru pan welodd ymchwiliad Computer Weekly, ac yna gwneud adroddiad am yr erthygl a'r cyfweliad gynta' o nifer gyda Noel Thomas o Ynys Môn.

Mae'r hanes bellach yn ddrama ITV sydd wedi tynnu'r sylw unwaith eto, gyda'r llywodraeth yn ymddiheuro'n uniongyrchol i Mr Thomas ddydd Mercher, ac yn addo y bydd is-bostfeistri yn cael "eu rhyddhau o unrhyw fai yn sydyn".

Ar Dros Frecwast, dywedodd Sion Tecwyn bod yr ymgyrch yn tynnu sylw at ddau newid posib yn y gyfraith yn y dyfodol.