Rishi Sunak yn addo 'rhyddhau is-bostfeistri o fai yn sydyn'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Mr Thomas ei fod yn gobeithio y bydd y cyhoeddiad yn "help mawr" i'r rheiny sy'n dal i frwydro

Mae Prif Weinidog y DU wedi cyhoeddi y bydd cyfraith newydd yn cael ei chyflwyno er mwyn sicrhau bod unrhyw un a gafodd ei effeithio gan y sgandal is-bostfeistri yn cael "eu rhyddhau o unrhyw fai yn sydyn".

Rhwng 1999 a 2015 cafodd 736 o is-bostfeistri eu herlyn am ddwyn arian neu gyflwyno cyfrifon ffug yn rhan o sgandal Horizon - sawl un ohonynt o Gymru.

Mae'r achosion hynny yn cynnwys dau amlwg o Ynys Môn - Noel Thomas a Lorraine Williams - sydd wedi dweud yr wythnos hon fod angen gwneud mwy i gosbi'r rheiny oedd yn gyfrifol.

Cafodd Mr Thomas ymddiheuriad uniongyrchol "ar ran y llywodraeth a'r Swyddfa Bost" yn y siambr yn San Steffan ddydd Mercher.

Mae'r hanes wedi cael ei adrodd mewn drama ar ITV - Mr Bates vs The Post Office - yn ddiweddar, sydd wedi codi'r mater yn ôl i'r agenda wleidyddol.

Roedd prif gymeriad y gyfres, Alan Bates, yn rhedeg Swyddfa'r Post yng Nghraig-y-Don ger Llandudno rhwng 1998 a 2003.

Wedi 20 mlynedd fe enillodd ymgyrchwyr frwydr gyfreithiol i ailystyried eu hachosion, ond hyd yma dim ond 93 euogfarn sydd wedi cael eu dileu.

Fe ddechreuodd ymchwiliad cyhoeddus i'r mater yn 2021, ond mae nifer a gafodd eu heffeithio yn dal i frwydro i wrthdroi eu heuogfarnau neu sicrhau iawndal llawn.

Rishi SunakFfynhonnell y llun, Tŷ'r Cyffredin
Disgrifiad o’r llun,

"Byddwn yn sicrhau fod y gwir yn dod i'r amlwg," meddai Rishi Sunak

Dywedodd Rishi Sunak wrth Dŷ'r Cyffredin ddydd Mercher y bydd "deddfwriaeth newydd yn cael ei gyflwyno er mwyn sicrhau fod y rheiny a gafwyd yn euog o ganlyniad i sgandal Horizon yn cael eu rhyddhau o unrhyw fai yn sydyn a'u digolledu".

Ychwanegodd y bydd "taliad uniongyrchol o £75,000 yn cael ei gyflwyno i'r grŵp allweddol o bostfeistri".

"Byddwn yn sicrhau fod y gwir yn dod i'r amlwg," meddai Mr Sunak.

Dywedodd y byddai'r gweinidog busnes Kevin Hollinrake yn rhoi "mwy o fanylion i'r Tŷ yn fuan".

Mr Bates vs The Post OfficeFfynhonnell y llun, ITV
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhaglen Mr Bates vs The Post Office wedi codi'r mater yn ôl i'r agenda wleidyddol

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud yn y gorffennol y bydd postfeistri a gafwyd yn euog ar gam o ddwyn neu gyflwyno cyfrifon ffug yn cael cynnig £600,000 yr un o iawndal.

Ond mae 'na bryder fod y broses o gael yr iawndal i ddioddefwyr wedi bod yn llawer rhy araf.

O'r 93 o euogfarnau sydd wedi'u dileu, dim ond 30 o'r rheiny sydd wedi cytuno ar "setliad llawn a therfynol".

Ymddiheuriad i Noel Thomas

Yn gwylio cyhoeddiad Mr Sunak ar Ynys Môn oedd Noel Thomas, a gafodd ei garcharu am naw mis yn 2006 ar ôl i £48,000 fynd ar goll o'i gyfrifon.

Daeth i'r amlwg yn ddiweddarach bod hyn o ganlyniad i nam ar feddalwedd Horizon Swyddfa'r Post, ac fe gafodd ei euogfarn ei gwrthdroi yn 2021.

Mae wedi cael taliad interim, ond dywedodd nad ydy'r arian yn lleddfu'r boen.

Noel Thomas a Lorraine Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae achosion Noel Thomas a Lorraine Williams o Ynys Môn yn ddau enghraifft amlwg o effaith y sgandal ar Gymru

Cafodd Mr Thomas ymddiheuriad uniongyrchol gan y gweinidog busnes a masnach, Kevin Hollinrake ar lawr y siambr yn San Steffan ddydd Mercher.

Yn ymateb i Liz Saville Roberts o Blaid Cymru, a gododd achos Mr Thomas, dywedodd Mr Hollinrake ei fod "ar ran y llywodraeth a'r Swyddfa Bost yn ymddiheuro am yr hyn ddigwyddodd i Mr Thomas".

"Roedd hi'n stori emosiynol, ac rwy'n credu y byddai unrhyw un oedd yn gwylio [y rhaglen] wedi cael dagrau yn eu llygaid wedi'r hyn ddigwyddodd iddo ef ac eraill."

'Maen nhw wir angen help'

Ar ôl gwylio'r cyhoeddiad, dywedodd Mr Thomas ei fod yn "gobeithio y gwneith o [Rishi Sunak] gadw ei air".

Dywedodd Mr Thomas fod y ddrama "wedi gwneud gwaith da ofnadwy" a'i fod yn gobeithio fod pobl o'r diwedd yn dechrau gwrando.

"Mae 'na bedwar llywodraeth 'di bod yn gyfrifol am hyn, a ma' nhw i gyd 'di basio fo o un i'r llall," meddai.

"Ma' rhain yn gorfod datrys o - rhaid iddo fo ddod i ben rhyw dro."

Lorraine yn dathlu o flaen llys apelFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Lorraine Williams a Noel Thomas gydag is-bostfeistri eraill o flaen y Llys Apêl yn 2021 ar ôl i'w heuogfarnau gael eu dileu

Ychwanegodd ei fod yn "gobeithio" bod y cyhoeddiad ddydd Mercher yn dod â'r terfyn gam yn nes, "ond gawn ni weld pan ddaw y print mân allan".

Er bod ei euogfarn yntau wedi cael ei dileu, dywedodd Mr Thomas ei fod yn siŵr y bydd y cyhoeddiad yn "help mawr" i'r rheiny sy'n dal i frwydro.

"Ma' rhai ohonyn nhw wedi bod yn waeth allan na fi - 'di colli eiddo a bob dim. Ma' nhw wir angen help," meddai.

'Teyrnged i'r ymgyrchwyr o Gymru'

Yn croesawu cyhoeddiad y prif weinidog dywedodd AS Canol Caerdydd a llefarydd y blaid Lafur ar Gymru, Jo Stevens fod is-bostfeistri "wedi disgwyl yn llawer rhy hir am y gwir, cyfiawnder ac iawndal".

Ychwanegodd fod "pobl ledled Cymru wedi colli eu bywoliaeth a'u rhyddid" o ganlyniad i'r helynt.

"Rwy'n talu teyrnged i'r ymgyrchwyr o Gymru, sydd wedi arwain y frwydr am gydnabyddiaeth ac adfer enwau da is-bostfeistri," meddai.

"Rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n cael y cyfiawnder maen nhw'n ei haeddu."