E-sgwteri i gymryd lle cynllun Nextbike Caerdydd?
Mae Cyngor Caerdydd yn ystyried cynlluniau llogi beics ac e-sgwteri newydd i gymryd lle cynllun poblogaidd Nexbike yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.
Fe gyhoeddodd cwmni llogi beics NextBike fod y cynllun yn dod i ben yn y brifddinas a Bro Morgannwg ym mis Ionawr.
Dywedodd y cwmni fod 3,000 o feics wedi diflannu neu gael eu difrodi ers i'r cynllun gael ei lansio yn 2018.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ddydd Mawrth, dywedodd Cadeirydd Bwrdd Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, Dafydd Trystan bod yna botensial i gael cynllun e-sgwteri yng Nghymru ond bod angen cynnal cynllun peilot.
Fe ddisgrifiodd yr e-sgwteri fel teclynnau "bach, hwylus a hyblyg" ac "o'u cynllunio nhw'n iawn a chynllunio'r rhwydwaith yn iawn, ma' nhw'n gallu bod yn rhan o'r ateb".
Mae sawl gwlad eisoes yn dilyn cynllun e-sgwteri llwyddiannus, ac mae sawl cynllun i'w treialu wedi digwydd yn Lloegr, gan gynnwys ym Mryste.