Cynllun Nextbike Caerdydd a'r Fro i ddod i ben
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun rhannu beiciau yng Nghaerdydd ar fin dod i ben ar ôl i filoedd o feics gael eu dwyn a'u fandaleiddio.
Dywedodd cwmni Nextbike bod 3,000 o feics wedi diflannu neu gael eu difrodi yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg ers i'r cynllun gael ei lansio yn 2018.
Fe wnaeth y cwmni gymryd y beics i ffwrdd dros dro yn 2021 yn dilyn adroddiadau bod cannoedd wedi cael eu dwyn.
Mae cynghorydd yn y brifddinas yn dweud bod y cyngor yn "obeithiol" y bydd modd dod o hyd i bartner newydd i redeg cynllun tebyg.
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2019
Roedd cytundeb Caerdydd gyda'r cwmni i fod i ddod i ben yn 2025, ond mae Nextbike wedi penderfynu na fydd yn gweithredu yn y ddinas o Ionawr 2024 ymlaen.
Er y trafferthion, y cynllun yn y brifddinas oedd un mwyaf llwyddiannus Nextbike yn y DU o ran nifer y defnyddwyr, gyda'r beics wedi'u rhentu dwy filiwn o weithiau mewn pum mlynedd.
Dywedodd Jess Stangward o Nextbike: "Mae'n drist ein bod ni wedi gorfod cymryd y penderfyniad i gau'r gwasanaeth yng Nghaerdydd, oherwydd roedd yn cael defnydd da gan drigolion.
"Yn anffodus, mae lefel y fandaliaeth eleni yn golygu nad yw'n bosib i ni barhau i ddarparu gwasanaeth da."
Mae astudiaeth ymarferoldeb wedi cael ei lansio er mwyn asesu'r ffordd orau ymlaen i gynghorau Caerdydd a Bro Morgannwg.
Bydd yn edrych ar gynlluniau o'r fath ar draws y byd ac yn asesu amryw o gyflenwyr.
"Mae cynllun rhentu beiciau Caerdydd a'r Fro, er gwaethaf ei heriau, wedi bod yn un eithriadol o boblogaidd, gyda nifer sylweddol o ddefnyddwyr," meddai'r Cynghorydd Dan De'Ath, aelod cabinet Cyngor Caerdydd dros drafnidiaeth.
"Ein bwriad ydy cael cynllun rhentu beiciau newydd i ddychwelyd i'r ddinas cyn gynted â phosib.
"Mae angen i ni ganfod ffordd, gan ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf, i'w gwneud hi'n fwy anodd i bobl sydd am fandaleiddio neu ddwyn beics."