Ysgol Glan-y-Môr: Croesawu'r cymhwyster TAAU newydd
Rydyn ni'n gyfarwydd â chymwysterau TGAU ond o dan gynlluniau newydd bydd disgyblion yng Nghymru sy'n dewis cyrsiau galwedigaethol yn astudio TAAU.
Bydd Tystysgrif Alwedigaethol Addysg Uwchradd yn gymhwyster newydd i ddisgyblion 14 i 16 o fis Medi 2027.
Fel rhan o ddiwygio cymwysterau ar gyfer y cwricwlwm newydd i ysgolion, ni fydd disgyblion 16 oed bellach yn gwneud cyrsiau fel BTEC.
Gobaith Cymwysterau Cymru yw y bydd TAAU yn cael yr un statws â TGAU ac yn cael ei "werthfawrogi yn yr un ffordd".
Yn Ysgol Glan-y-Môr, Pwllheli mae croeso mawr i'r syniad.