TAAU: Un cymhwyster galwedigaethol newydd oed 14-16

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae rhai o ddisgyblion Ysgol Glan-y-Môr yn croesawu'r cymhwyster newydd

Rydyn ni'n gyfarwydd â chymwysterau TGAU ond mae cynlluniau newydd yn golygu y bydd disgyblion yng Nghymru, sy'n dewis cyrsiau galwedigaethol, yn astudio TAAU.

Bydd Tystysgrif Alwedigaethol Addysg Uwchradd yn gymhwyster newydd i ddisgyblion 14 i 16 o fis Medi 2027.

Fel rhan o ddiwygio cymwysterau ar gyfer y cwricwlwm newydd i ysgolion fydd disgyblion 16 oed ddim bellach yn gwneud cyrsiau fel BTEC.

Gobaith Cymwysterau Cymru yw y bydd TAAU yn cael yr un statws â TGAU ac yn cael ei "werthfawrogi yn yr un ffordd".

Yn Ysgol Glan-y-Môr, Pwllheli mae croeso mawr i'r syniad.

Dewisodd Erin Gwen gwrs galwedigaethol busnes er mwyn "gallu gwneud rhywbeth yn hytrach na gorffen y cwrs efo arholiad".

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddewisodd Erin gwrs busnes am ei fod yn gwrs ymarferol

Mae hi'n falch y bydd y cymhwyster yn swnio'n debyg i TGAU.

"Dwi'n meddwl bod o'n tynnu'r ddrysfa oddi wrth blant blwyddyn 9 sy' wrthi'n dewis cyrsiau newydd. Ella bo' nhw'n meddwl bod o lot haws na phasio TGAU arferol. Y gwir ydy maen nhw o'r un safon. Trwy alw nhw'n TAAU dwi'n meddwl bod o'n haws iddyn nhw ddeall bo' nhw o'r un safon."

Mae Gwenno yn astudio arlwyo a busnes ac yn cytuno ag Erin gan fod y cyrsiau'n cydbwyso gwaith ymarferol a gwaith ysgrifenedig.

Disgrifiad o’r llun,

Er mwyn cael cydbwysedd rhwng gwaith ysgrifenedig a gwaith ymarferol mae Gwenno'n astudio arlwyo a busnes

"Dwi'n meddwl bod newid o i TAAU yn mynd i glirio pethau fyny oherwydd mae'n debyg i TGAU ac ma' pawb yn deall bod o'r un gwerth â TGAU ond ei fod o'n gyfle i asesu mewn ffordd wahanol."

Beth yw TAAU?

  • VCSE yw'r cymhwyster yn Saesneg. Mae'n frand newydd i gymwysterau galwedigaethol yng Nghymru;

  • Cymwysterau ymarferol yw rhain sy'n tueddu i gael eu cysylltu â swyddi penodol neu yrfaoedd;

  • Maen nhw'n wahanol i gymwysterau cyffredinol fel TGAU sydd fel arfer yn bynciau academaidd;

  • Ar hyn o bryd mae yna lawer o gymwysterau gwahanol yn cael eu cynnig gan fwy nag un corff rhoi graddau. Yn ôl Cymwysterau Cymru bydd TAAU yn cymryd lle tua 300 o gymwysterau galwedigaethol gan gynnwys BTEC. Bydd cymwysterau BTEC yn dal i gael eu cynnig i fyfyrwyr ôl-16.

Disgrifiad o’r llun,

Yn Ysgol Glan-y-Môr, Pwllheli mae croeso mawr i'r cymhwyster galwedigaethol newydd

Dywedodd Cassy Taylor, Cyfarwyddwr Polisi a Diwygio Cymwysterau Cymru ei bod hi'n bwysig i bobl ifanc gael dewisiadau cyfartal.

"Ry'n ni wir wedi cyffroi am y syniad o frand TAAU newydd sy'n eistedd ochr yn ochr gyda TGAU a sydd wir yn codi proffil dysgu galwedigaethol yng Nghymru," meddai.

Barn cyflogwr

I gwmni band eang Ogi o Gaerdydd, mae'r cyhoeddiad yn ddatblygiad cyffrous.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cymhwyster yn rhoi hyder i bobl ddewis trywydd gwahanol, medd Mike Scott o dîm marchnata Ogi

"Mae'r sgiliau craidd TGAU arferol - dy'n nhw ddim o reidrwydd beth mae busnesau angen dyddiau yma," eglura Mike Scott o dîm marchnata Ogi.

"Mae'n braf bod gynnon ni y suite yma mae pobl yn gallu dewis ohono fel bod nhw'n gallu cael gyrfa hyd yn oed os dy'n nhw ddim yn academaidd.

"Dyw e ddim yn golygu os bo' chi methu gneud e yn y dosbarth bo' chi ddim yn gallu gwneud e yn y busnes. Mae'r cyhoeddiad yma'n golygu bod cyfle i bobl ac mae'n rhoi hyder ym mhobl i allu dewis trywydd gwahanol."

Beth arall sy'n newid?

Ymysg y newidiadau eraill:

  • Ystod o gymwysterau sylfaen. Mae rhain ar gyfer myfyrwyr sydd ddim eto'n barod i sefyll TGAU ac maen nhw o fewn meysydd dysgu eang y cwricwlwm newydd;

  • Ystod o unedau byr ar gyfer addysgu mewn meysydd fel llythrennedd ariannol, garddio ymarferol, ymgeisio am swyddi a gwasanaeth cwsmeriaid;

  • Fe fydd hefyd cymhwyster Prosiect Personol all gael ei gwblhau ar bwnc dewisol i brofi sgiliau fel cynllunio a chreadigrwydd.

Yn dilyn y newidiadau, ni fydd Bagloriaeth Cymru na'r Dystystgrif Her Sgiliau yn cael eu cynnig ar y lefel hon.

Pam fod hyn yn digwydd?

Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi newidiadau i gymhwyster TGAU yn barod.

Y prif reswm am yr adolygiad yw sicrhau bod y cymwysterau'n cydweddu â nodau'r cwricwlwm newydd.

Mae Cymwysterau Cymru hefyd am symleiddio'r hyn sy'n cael ei gynnig ac am adlewyrchu'r sgiliau y mae cyflogwyr eu heisiau wrth ddarparu beth sydd ei angen ar bobl ifanc yn y byd gwaith ac yn eu bywydau bob dydd.

Bydd rhai o'r cymwysterau TGAU newydd yn dechrau cael eu dysgu fis Medi 2025 a rhai eraill flwyddyn wedyn yn 2026. Bydd y cymhwyster galwedigaethol newydd, TAAU yn cael ei gyflwyno yn 2027.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Cassy Taylor o Cymwysterau Cymru, mae cymwysterau wastad wedi newid dros amser

Pa gyrsiau fydd yn cael eu cynnig yn fy ysgol leol?

Bydd ysgolion yn dewis pa gymwysterau fyddan nhw eisiau eu cynnig i ddisgyblion o dan argymhelliad canllaw Llywodraeth Cymru.

Mae disgwyl cwestiynau am lwyth gwaith athrawon fydd yn gorfod ymgyfarwyddo â chymwysterau newydd ac fe allai fod pryder am bwysau ar gyllidebau ysgolion.

Yn ôl Cassy Taylor o Cymwysterau Cymru, mae cymwysterau wastad wedi newid dros amser a byddan nhw'n gweithio gyda sefydliadau sy'n cynnig cymwysterau "a fydd yn cynnig adnoddau gwirioneddol arbennig i athrawon i'w cefnogi a'u galluogi i weithredu'r cymwysterau newydd".

Pynciau cysylltiedig