Toriadau cyllid: 'Sut mae ysgolion i fod i barhau?'
Mae holl benaethiaid ysgolion Sir Conwy wedi arwyddo llythyr yn beirniadu cynlluniau'r cyngor sir i dorri cyllid ysgolion o rhwng 6% a 10%.
Yn eu llythyr at rieni disgyblion y sir, maen nhw'n rhybuddio fod sefyllfa ariannol ysgolion yn argyfyngus erbyn hyn, ac y byddai toriadau pellach yn cael effaith sylweddol ar yr hyn y gellir ei ddarparu i ddisgyblion.
Mae Cyngor Conwy yn dweud bod yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd. Fe fydd cynghorwyr yn penderfynu ar lefel toriadau cyn diwedd y mis.
Yn ôl dirprwy bennaeth un o ysgolion cynradd y sir, mae yna drafod a chynllunio ar gyfer toriadau posib "ers amser hir".
Byddai toriad o 5% neu 6% "yn ei hun yn ergyd eithafol," medd Sioned Sajko o Ysgol Bro Gwydir, Llanrwst, ond fe fyddai toriad o 10% yn cael effaith "ofnadwy" ar ysgolion.
Fel ysgol gymharol fawr, gyda thua 340 o ddisgyblion, dywedodd eu bod "yn gweld ein hunan fel ysgol reit iach o ran cyllid".
Eto i gyd, mae'r ysgol "yn brin o staff fel mae" ac mae "cyllid yn brin" eisoes, sy'n golygu efallai y bydd yn rhaid colli staff o ganlyniad derbyn llai o arian.