Holl brifathrawon sir yn beirniadu toriadau hyd at 10%
- Cyhoeddwyd
Mae holl brifathrawon Sir Conwy wedi arwyddo llythyr yn beirniadu'r cyngor am gynlluniau i dorri cyllid ysgolion o rhwng 6% i 10%.
Mae'r llythyr yn cael ei ddanfon at rieni plant sy'n mynychu ysgolion cynradd, uwchradd ac ysgolion anghenion arbennig Conwy.
Mae’r awdurdod lleol eisoes wedi torri cyllidebau addysg 5% y llynedd - gyda hyd yn oed mwy o doriadau yn cael eu cynnig eleni.
Er bod union lefel y toriadau i'w bennu mewn cyfarfod ddiwedd Chwefror, mae rhai cynghorwyr eisoes wedi dweud y byddan nhw'n gwneud toriadau o 6% o leiaf - gyda 10% hefyd yn cael ei awgrymu.
Dywedodd Cyngor Conwy bod rhaid gwneud "penderfyniadau anodd", tra bod Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod "yn parhau i weithio gyda phartneriaid ar draws y sector i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i'n dysgwyr".
'Twll du ariannol' o £25m
Mae'r penaethiaid wedi rhybuddio mai'r plant mwyaf bregus sydd angen cymorth ychwanegol fydd yn dioddef fwyaf.
"Rydym ni fel penaethiaid Conwy a chyrff llywodraethol yn poeni'n arbennig eleni gan fod gofyn i ni dderbyn arbedion o rhwng 6% a 10% gan awdurdod lleol Conwy ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf," meddai'r llythyr.
“Mae'n deg dweud bod unrhyw doriad i gyllid ysgolion yn mynd i wneud gosod cyllideb gytbwys yn hynod o heriol i benaethiaid a chyrff llywodraethol.
“Rydym am i rieni a gofalwyr ddeall yn llawn yr heriau difrifol yr ydym yn parhau i'w hwynebu.”
Mae'r llythyr yn ychwanegu bod y "sefyllfa ariannol mewn ysgolion bellach yn argyfyngus” a bydd “toriadau pellach i gyllidebau ysgolion yn cael effaith sylweddol ar yr hyn y gallwn ei ddarparu i'n disgyblion".
Mae'r llythyr wedyn yn esbonio bod penaethiaid eisoes wedi ysgrifennu at weinidog addysg Llywodraeth Cymru i fynegi eu pryderon.
Mae’r penaethiaid hefyd yn rhybuddio am golli swyddi, gan ddod i ben drwy ddweud: “Yn y diwedd, y plant o fewn ein cymunedau fydd yn dioddef - maen nhw'n haeddu gwell."
Yn ôl dirprwy bennaeth un o ysgolion cynradd y sir, mae yna drafod a chynllunio ar gyfer toriadau posib "ers amser hir".
Byddai toriad o 5% neu 6% "yn ei hun yn ergyd eithafol," medd Sioned Sajko o Ysgol Bro Gwydir, Llanrwst, ond fe fyddai toriad o 10% yn cael effaith "ofnadwy" ar ysgolion.
Fel ysgol gymharol fawr, gyda thua 340 o ddisgyblion, dywedodd eu bod "yn gweld ein hunan fel ysgol reit iach o ran cyllid".
Eto i gyd, mae'r ysgol "yn brin o staff fel mae" ac mae "cyllid yn brin" eisoes, sy'n golygu efallai y bydd yn rhaid colli staff o ganlyniad derbyn llai o arian.
'Penderfyniadau anodd iawn'
Mae Cyngor Conwy'n dweud eu bod yn wynebu diffyg ariannol o £25m, ac mae'n debygol y bydd yn torri ar bob math o wasanaethau ac yn codi’r dreth gyngor hyd at 11% eleni.
Mae’r cyngor wedi rhoi'r bai yn rhannol ar dderbyn y cynnydd isaf yng Nghymru i'w chyllideb – 2%.
- Cyhoeddwyd14 Mai 2019
- Cyhoeddwyd5 Chwefror
Dywedodd arweinydd Cyngor Conwy, Charlie McCoubrey: “Mae holl gynghorwyr y sir yn ymwybodol o'r prinder arian y mae'r cyngor yn ei wynebu o ganlyniad i ddyfarniadau cyflog cenedlaethol, chwyddiant, prisiau ynni a thanwydd, a'r galw cynyddol am wasanaethau.
“Yn union fel awdurdodau eraill ledled y DU, mae’n rhaid i’r cyngor leihau gwariant mewn nifer o feysydd a chodi incwm ychwanegol, sy’n debygol o gael effaith ar lefel y gwasanaethau rydym yn ei ddarparu.
“Mae’n anochel pan fydd cynghorwyr yn cyfarfod i benderfynu’r gyllideb ar 29 Chwefror, bydd yn rhaid iddyn nhw wneud penderfyniadau anodd iawn.”
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2019
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "wedi ail-flaenoriaethu cyllid i gynyddu grantiau Llywodraeth Cymru sy'n mynd yn uniongyrchol i ysgolion".
"Mae agenda o gyni cyllidol Llywodraeth y DU yn golygu bod pwysau sylweddol ar awdurdodau lleol," meddai.
"Dyna pam y gwnaethom ddarparu cynnydd sylweddol o 7.9% i gyllidebau awdurdodau lleol yn 2023-24, ac rydym wedi diogelu'r cynnydd dangosol o 3.1% yng nghyllideb ddrafft 2024-25.
"Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid ar draws y sector i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i'n dysgwyr."