Llywodraeth 'wedi colli'r plot pan mae'n dod i amaeth'

Roedd tua 3,000 o ffermwyr a phobl sydd ynghlwm â'r byd amaeth yn bresennol mewn cyfarfod tanllyd nos Iau ym mart Caerfyrddin.

Cafodd y cyfarfod ei drefnu yn dilyn pryderon ymysg y diwydiant am gostau cynyddol, rheoliadau llymach a newidiadau polisi.

Gwrthod honiadau eu bod wedi troi cefn ar gefn gwlad mae Llywodraeth Cymru sy'n dadlau bod eu hymrwymiad i'r sector amaeth "ar yr adeg heriol hon yn glir iawn".

Ond yn ôl undebau amaeth mae 'na "anniddigrwydd anferth" ynglŷn â chynlluniau gweinidogion ym Mae Caerdydd i ddiwygio'r sector.

Dywedodd Cheryl Thomas o Bontantwn, sydd wedi bod yn rhan o'r diwydiant erioed, fod y "Cynulliad wedi colli'r plot amser mae e'n dod i amaeth. Ni'n cael bai ar gam".

"Dy'n nhw ddim yn edrych ar y darlun mawr, ma' nhw jyst yn beio y ffarm, y fuwch a'r anifail," meddai.