Caerfyrddin: 3,000 o ffermwyr mewn cyfarfod tanllyd
- Cyhoeddwyd
Daeth tua 3,000 o ffermwyr a phobl sydd ynghlwm â'r byd amaeth i gyfarfod tanllyd nos Iau ym mart Caerfyrddin.
Dywedodd un o drefnwyr y brotest, Aled Rees, wrth y dyrfa fod 'na "un argyfwng ar ôl y llall ym myd amaeth a'r un llywodraeth sydd wedi bod yng Nghaerdydd".
Dywedodd bod y niferoedd oedd yn bresennol yn arwydd o gryfder y ffermwyr.
Cafodd cynnig ei wneud bod mandad yn cael ei gyflwyno i drefnwyr y cyfarfod drafod yn uniongyrchol â Llywodraeth Cymru - cafodd y cynnig ei gefnogi yn unfrydol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi annog ffermwyr i gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar eu cynlluniau, gan ddweud eu bod yn debygol o newid.
Ddydd Gwener, daeth cadarnhad bod cyfarfod rhwng yr undebau a'r gweinidog wedi ei drefnu.
Cafodd y cyfarfod ei annerch hefyd gan Llyr Gruffydd, llefarydd Plaid Cymru ar Faterion Gwledig.
Dywedodd Mr Gruffydd nad oedd erioed wedi gweld cymaint o sialensiau ym myd amaeth ar yr un adeg.
Fe heriodd y Prif Weinidog Mark Drakeford a'r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths i ddod i gwrdd â threfnwyr y cyfarfodydd yn Y Trallwng a Chaerfyrddin, gan ddweud fod y bêl bellach yn eu cwrt nhw.
Roedd 'na feirniadaeth hefyd o'r polisi yn ymwneud â'r diciâu, neu TB, gyda galw am newid sylfaenol er mwyn mynd i'r afael â'r clefyd mewn bywyd gwyllt.
Erbyn hyn mae Gweinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru Lesley Griffiths AS, wedi gwahodd llywyddion yr undebau ffermio i gyfarfod brys er mwyn clywed eu barn ac i drafod pryderon ffermwyr a busnesau gwledig Cymru.
Mae'r cyfarfod wedi ei drefnu yn dilyn cais brys gan Lywydd NFU Cymru, Aled Jones, wedi iddo gyfarfod â'r Gweinidog Lesley Griffiths yn gynharach yr wythnos hon.
I ddarllen mwy o straeon mawr sy'n effeithio ar bobl yng Nghymru, lawrlwythwch ap BBC Cymru Fyw ar Google Play, dolen allanol neu App Store, dolen allanol.
Dywedodd dirprwy lywydd NFU Cymru, Abi Reader, "nad yw'r frwydr ar ben eto" ar y cynllun ffermio cynaliadwy, ac roedd gan yr undeb "nifer o gardiau" i fyny ei llawes.
Fe ddatgelodd hi fod yr undeb wedi sicrhau cyfarfod gyda Llywodraeth Cymru am drafodaethau pellach yr wythnos ar ôl hanner tymor.
Wrth gloi'r cyfarfod, dywedodd un o'r trefnwyr, Aled Rees, ei fod yn gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru yn ystyried "y dicter a'r pryder" yn y byd ffermio, ond nad oedd Mark Drakeford a Leslie Griffiths wedi dangos "unrhyw gydymdeimlad i'r diwydiant".
Fe gododd un o'r trefnwyr, Gary Howells, sydd yn ffermio yn Shadog, Llandysul, ei fab ifanc i fyny o flaen y dorf a dweud bod Dafydd, ei fab, am ffermio.
Gofynnodd: "Sut alla i ddweud wrth Dafydd bod y Blaid Lafur yng Nghaerdydd am chwalu ei freuddwydion? Fe fyddwn ni yn ymladd hwn i'r pen."
Fe ofynnwyd i'r dorf roi mandad i drefnwyr y cyfarfod gynnal trafodaethau uniongyrchol gyda Llywodraeth Cymru. Cafodd y mesur hwnnw ei gefnogi'n gryf gan y dorf enfawr.
Wrth siarad gyda BBC Cymru dywedodd Aled Rees: "Dyw newid ddim yn beth newydd i'r diwydiant yma.
"Ni 'di bod yn newid dros y degawdau, ond mae'r newid hwn yn mynd i roi'r hoelen ddiwetha' yn arch ffermio Cymru."
Ychwanegodd: "Mae lan iddyn nhw [y llywodraeth] nawr i wrando a wedyn gewn ni weld beth ddigwyddith."
'Colli'r plot'
I Cheryl Thomas o Bontantwn, sydd wedi bod yn rhan o'r diwydiant erioed, dywedodd fod y "Cynulliad wedi colli'r plot amser mae e'n dod i amaeth. Ni'n cael bai ar gam".
"Dy'n nhw ddim yn edrych ar y darlun mawr, ma' nhw jyst yn beio y ffarm, y fuwch a'r anifail," meddai.
Fe ychwanegodd Aled Morgan o Gastellnewydd Emlyn: "Sai'n credu bod diddordeb gyda nhw [y llywodraeth] yn amaeth.
"Pan fydd dim bwyd ar y plât falle fyddan nhw'n dihuno, ond erbyn hynny, fydd hi'n rhy hwyr."
Dywedodd Catrin Thomas o Lanwnnen: "Dyma ddyfodol ein plant ni a'r mab, a s'dim incwm yn dod mewn, s'dim arian i'w gael.
"Mwy o gostau a llai o elw yn dod mewn. Ni gyd yn yr un man, s'dim ots beth yw maint y ffarm. Fi'n gweld y ffarm deuluol yn gorffen."
Dywedodd un dyn ifanc ei fod yn "bryderus meddwl falle bydd dim amaethyddiaeth i gael".
Dywedodd Dafydd Waters, sy'n arwerthwr gyda Nock Deighton: "Y ffordd mae pethau'n mynd, maen nhw'n 'neud e'n hynod o galed i ffermio."
'Nhw gyd yn erbyn y byd amaethyddol'
Dywedodd Meirion Owen o Lanarthne fod y "TB, mae'r plannu coed, mae'r Sioe Frenhinol, ma' nhw gyd yn erbyn y byd amaethyddol i gyd - bob hoelen fach yn gwneud yr effaith.
"Fi'n credu mae'r amser wedi dod. Digon yw digon."
Dywedodd Dorian Griffiths o Gaerfyrddin, sydd wedi bod yn y busnes ers 35 o flynyddoedd, nad yw wedi gweld e "mor wael â beth yw e nawr".
"Mae e'n serious ac os ydyn ni'n moyn cadw cefn gwlad a chadw ffermwyr, mae'n rhaid gwneud rhywbeth ambyti fe.
"S'dim pwynt protestio pan fydd dim bwyd ar y silffoedd yn y supermarkets."
Llywodraeth 'ddim yn gwrando'
Yn siarad ar Dros Frecwast fore Gwener dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar faterion gwledig, Samuel Kurtz, fod "teimlad o rwystredigaeth a dicter" am y polisïau "sy'n cael eu gwthio gan y llywodraeth".
Dywedodd "nad yw'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn gallu gweithio ar ffermydd Cymru".
"Os edrychwn ni ar y cynllun ddaeth 'mlaen llynedd yn y Sioe Frenhinol, roedden nhw'n sôn am blannu 10% o goed.
"Daeth yr undebau a'r diwydiant mas yn gryf iawn a dweud nad oedd hwn yn gweithio.
"Dyma ni nawr ym mis Chwefror, gyda 10% yn dal yn y polisi.
"Ma' hwnna'n dangos i fi nad yw'r llywodraeth wedi gwrando ar beth mae'r undebau a'r diwydiant wedi dweud ynglŷn â hyn."
Ychwanegodd Mr Kurtz fod enghreifftiau eraill o fethiant Llywodraeth Cymru i wrando ar bryderon ffermwyr.
"Os edrychwn ni ar bolisi TB yma yng Nghymru - ma'r gwrthbleidiau wedi dweud wrth y llywodraeth 'ma'n rhaid taclo TB yma yng Nghymru, a ma'n rhaid i ni wneud hynny yn y bywyd gwyllt hefyd', ond dydy'r llywodraeth ddim yn gwrando.
"Os edrychwn ni ar NVZ dros Gymru gyfan - ma'r diwydiant a'r sector wedi dweud, 'dydy hwn ddim yn gweithio ar bob un fferm'.
"Tair enghraifft o'r llywodraeth yn pallu gwrando ar beth ma'r diwydiant yn ei ddweud."
'Gwrando' ar yr ymgynghoriad
Dywedodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig, Lesley Griffiths, ei bod yn deall ei fod yn gyfnod o newid a'i fod "yn naturiol i bobl deimlo'n ofnus ac yn ansicr".
"Ydw i'n meddwl y bydd rhaid newid rhai o'r cynigion? Ydw, wrth gwrs rwy'n meddwl hynny - does dim pwynt cael ymgynghoriad os nad ydych chi'n gwrando."
O ran y toriadau swyddi sy'n cael eu rhagweld gan undebau, dywedodd fod hyn yn seiliedig ar fersiwn gynharach o'r cynlluniau arfaethedig ac na fyddai mor amlwg yn y cynigion terfynol.
Ychwanegodd: "Rwyf wastad wedi bod yn weinidog sydd eisiau gweithio mewn partneriaeth a gobeithio [fod y diwydiant] wedi gallu gweld hynny dros y blynyddoedd diwethaf.
"Mae'r ymgynghoriad hwn yn ystyrlon ac mae'n bwysig iawn bod pobl yn ymateb."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mai
- Cyhoeddwyd8 Chwefror
- Cyhoeddwyd2 Chwefror