'Sialens enfawr' yn wynebu Cymru yn Twickenham

Mae'r canolwr George North yn cydnabod bod yna her fawr yn wynebu Cymru wrth iddyn nhw herio Lloegr yn Twickenham brynhawn Sadwrn.

North, 31, yw'r chwaraewr mwyaf profiadol yn nhîm Cymru, a'r unig un o'r 23 sydd wedi ennill gyda Chymru yn Twickenham - yn y fuddugoliaeth 28-25 yng Nghwpan y Byd 2015.

Yn ôl North, mae gan dîm ifanc Cymru gyfle i greu sioc os ydyn nhw'n llwyddo i adeiladu ar yr ail hanner calonogol yn y golled yn erbyn Yr Alban ddydd Sadwrn diwethaf.