Saith newid i'r tîm fydd yn herio Lloegr yn Twickenham

  • Cyhoeddwyd
George NorthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth George North fethu'r golled yn erbyn yr Alban oherwydd anaf

Mae George North wedi ei enwi fel canolwr wrth i Warren Gatland wneud saith newid i'r tîm fydd yn herio Lloegr ddydd Sadwrn.

Dyma fydd y 50fed gêm i North ei chwarae ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad - wedi iddo fethu'r golled yn erbyn yr Alban oherwydd anaf.

Tomos Williams ac Ioan Lloyd fydd yn dechrau fel mewnwr a maswr - wedi i'r ddau chwarae rôl amlwg wrth i Gymru frwydro nôl yn yr ail hanner ddydd Sadwrn.

Mae sawl newid ymysg y blaenwyr hefyd gyda Gareth Thomas, Elliot Dee a Keiron Assiratti wedi eu dewis yn y rheng flaen.

Bydd Alex Mann yn dechrau gêm ryngwladol am y tro cyntaf wedi iddo gael ei ddewis fel blaenasgellwr ar yr ochr dywyll yn lle James Botham, sydd allan o'r garfan yn llwyr gydag anaf.

Fe all Archie Griffin ennill ei gap cyntaf wrth iddo gael ei gynnwys ar y fainc.

Mae Will Rowlands, Taine Basham, Kieran Hardy a Cai Evans hefyd wedi eu henwi fel eilyddion.

Mae Cameron Winnett, a enillodd ei gap cyntaf yn erbyn yr Alban, yn cadw ei le fel cefnwr gyda Josh Adams a Rio Dyer hefyd yn parhau ar yr esgyll.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Alex Mann yn dechrau gêm ryngwladol am y tro cyntaf yn Twickenham

Dywedodd Warren Gatland bod angen i Gymru adeiladu ar hyn a welwyd yn yr ail hanner yn erbyn yr Alban.

"Doedd yr hanner cyntaf [yn erbyn yr Alban] ddim yn ddigon da, ac yn bell o'r safonau 'da ni'n eu disgwyl. Fedrwn ni ddim dechrau yn yr un modd dydd Sadwrn.

"Fe ddangoson ni yn yr ail hanner be 'da ni'n gallu ei gynnig, a mater o adeiladau ar y perfformiad yna ydi hi rŵan, a sicrhau ein bod ni'n dechrau'r gêm ar dân.

"Ry'n ni wedi gwneud ambell i newid i'r tîm, sy'n rhoi cyfle i chwaraewyr eraill greu argraff."

Tîm Cymru i herio Lloegr

Winnett; Josh Adams, George North, Nick Tompkins, Rio Dyer; Ioan Lloyd, Tomos Williams; Gareth Thomas, Elliot Dee, Keiron Assiratti, Dafydd Jenkins (capt), Adam Beard, Alex Mann, Tommy Reffell, Aaron Wainwright.

Eilyddion: Ryan Elias, Corey Domachowski, Archie Griffin, Will Rowlands, Taine Basham, Kieron Hardy, Cai Evans, Mason Grady