Nataliia a Sofiia yn edrych ymlaen at ddychwelyd i Wcráin
Dwy flynedd ers dechrau'r rhyfel yn Wcráin, mae BBC Cymru wedi bod yn ôl i siarad â dwy ferch ifanc sydd wedi gwneud cartref newydd i'w hunain ar Ynys Môn.
Fe symudodd Nataliia a Sofiia o Wcráin i Gymru yn ystod haf 2022 ac mae'r ddwy bellach bron yn rhugl yn y Gymraeg.
Cyn i'r ddwy fynychu Ysgol Gynradd Llanfairpwll, fe dreulion nhw 11 wythnos mewn uned trochi iaith arbenigol ym Moelfre.
Yn ôl yn haf 2023, bu'r ddwy yn son am eu mwynhad wrth ddysgu Cymraeg a Saesneg ers symud o ardal Kryvyi Rih.
Felly, sut mae'r ddwy yn teimlo am eu bywydau yng Nghymru erbyn hyn?
Dywedodd Nataliia ei bod "wedi 'neud lot o ffrindiau yn fama a dwi efo lot o ffrindiau yn Wcráin so dwi efo ffrindiau mewn dau adre".
Dywedodd Sofiia fod bywyd wedi bod yn "neis" a'i bod wedi bod yn gwneud "lot o mathemateg, lot o sgwennu Cymraeg a tipyn bach o sgwennu Saesneg".
Aeth Nataliia ymlaen i ddweud ei bod yn edrych ymlaen at ddychwelyd i Wcráin ac y byddai yn "dweud pawb helo, rhedeg a chael hygs mawr".