Wcráin: Meistroli'r Gymraeg ar ôl 'bod drwy gymaint'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dyma Nataliia a Sofia o Wcráin yn siarad am ddysgu Cymraeg

Mae disgyblion ddaeth i Gymru o Wcráin y llynedd, a dysgu Cymraeg mewn 11 wythnos, yn dweud eu bod yn hoff iawn o fyw yma ond yn colli eu mamwlad.

Roedd BBC Cymru Fyw wedi cwrdd â Nataliia, 9 oed o Odesa, a Sofiia, 8 oed o Kryvyi Rih, ym mis Rhagfyr y llynedd wrth iddyn nhw gwblhau cwrs 11 wythnos mewn uned trochi iaith arbenigol ym Moelfre.

Roedd eu Cymraeg yn barod yn wych bryd hynny, a chafodd eu stori sylw ledled y byd, gan gynnwys mewn gwledydd mor bell â Seland Newydd.

Erbyn hyn mae'r ddwy ferch bron a gorffen tymor yr haf yn Ysgol Llanfairpwll, Ynys Môn, lle maen nhw wedi bod yn ddisgyblion ers mis Ionawr.

Mae'r ddwy bron yn rhugl yn y Gymraeg bellach, ac wrth eu boddau yn parhau i ddysgu'r iaith.

'Dwi'n hoffi pob gair newydd'

"Rydw i'n hoffi siarad Cymraeg, rydw i'n siarad Cymraeg yn yr ysgol ac efo ffrindiau," meddai Nataliia.

"Dwi'n hoffi dysgu ieithoedd, mae'n braf."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nataliia, 9 oed, yn wreiddiol o Odesa ond nawr yn mynychu Ysgol Llanfairpwll

Ychwanegodd Sofiia: "Dwi'n hoffi pob gair newydd - beth dwi ddim yn gwybod un diwrnod, mewn tri diwrnod dwi'n gwybod."

Roedd hoff air Nataliia wedi gwneud dipyn o argraff ym mis Rhagfyr - felly ydy hi'n dal i hoffi'r un gair?

"Ydw," meddai. "Arch-farch-nad!"

"Rydw i'n hoffi mathemateg yn yr ysgol hefyd, achos 'da chi'n defnyddio'r meddwl!" ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sofiia, sy'n 8 oed ac o Kryvyi Rih, hefyd wedi ymgartrefu gyda'i theulu yng Nghymru

Fel sy'n arferol gyda'r uned iaith lle cawson nhw eu gwersi cychwynnol, mae'r staff yn mynd allan i'r ysgolion yn ystod tymor yr haf i ddal fyny gyda'r disgyblion a rhoi gwersi ychwanegol.

"Rydw i'n hoffi dysgu Cymraeg efo Ms Owen," esbonia Sofiia. "Dwi efo Nataliia yn darllen stori lleidr a gwneud llun o'n lleidr ni."

'Rhugl mewn tair iaith'

Mae'r athrawes drochi, Eira Owen, yn gweld datblygiad mawr - ac nid yn unig o ran y Gymraeg.

Prin oedden nhw'n gallu siarad Saesneg ddechrau'r flwyddyn, ond maen nhw bellach yn siarad tair iaith yn rheolaidd.

Disgrifiad o’r llun,

Eira Owen: "Mae'n braf a 'da ni'n mwynhau gweld ein gilydd a cael sesiwn efo grŵp bach ohonan ni"

"Mae'n braf eu gweld nhw, yn arbennig y genod bach yma 'di bod drwy gymaint, dwi'n meddwl bod y cyswllt personol yna hefyd," meddai.

"O'dda nhw mewn grŵp mor fychan ym Moelfre, mae'n braf a 'dan ni'n mwynhau gweld ein gilydd a cael sesiwn efo grŵp bach ohonan ni.

"Fel 'dach chi'n gweld rŵan, mae 'na dair iaith yn mynd ymlaen yma mewn oed cynradd.

"Buan iawn fyddan nhw'n rhugl mewn tair iaith - ac hyd yn oed os wnawn nhw'm defnyddio'r Gymraeg yn y dyfodol, mae'r manteision gwybyddol 'na yn anhygoel."

Disgrifiad o’r llun,

Ffion Hughes: "Mae'n neis gweld y ddwy - bod nhw efo'i gilydd, bod ganddyn nhw gwmni ei gilydd"

Mae'r merched wedi setlo'n dda yn yr ysgol ac wedi bod yn rhan o weithgareddau fel gorymdaith Gŵyl Ddewi, Eisteddfod yr Urdd a dysgu caneuon Cymraeg.

Ffion Hughes ydy eu hathrawes, ac mae wedi dotio ar y ffordd maen nhw wedi cyfrannu at y dosbarth.

"Maen nhw 'di setlo'n arbennig o dda," meddai.

"Mae'n neis gweld y ddwy - bod nhw efo'i gilydd, bod ganddyn nhw gwmni ei gilydd.

"Ond hefyd mae'n arbennig gweld sut mae'r plant eraill wedi gwneud gymaint mwy o ymdrech i siarad Cymraeg, ac i helpu nhw efo'r Gymraeg yn yr ysgol hefyd."

Mae Nataliia a Sofiia hefyd wedi bod yn dysgu rhywfaint o Wcráineg i'r dosbarth.

Ychwanegodd Ms Hughes: "'Dan ni'n gofyn iddyn nhw pan mae'r tywydd, neu rhyw eirfa, a wedyn maen nhw'n licio dangos y gwahanol draddodiadau o'u gwlad nhw.

"Mae'n arbennig i'r plant weld, yn enwedig efo ieithoedd eraill, bod 'na ieithoedd eraill a pha mor bwysig ydy iaith i blentyn."

Hiraethu

Mae'r hiraeth am eu mamwlad yn amlwg, er bod y ddwy ferch yn hapus ar Ynys Môn.

"Dwi'n hoffi byw yng Nghymru, mae'n neis efo'r natur, ond dwi'n colli Wcráin," esboniodd Nataliia.

Ffynhonnell y llun, Ysgol Llanfairpwll
Disgrifiad o’r llun,

Nataliia a Sofiia yn dathlu Dydd Gwyl Dewi

"Mae gen i ffrindiau yna, mae gen i athrawes sy'n dysgu fi, mae gen i anifail anwes yna, mae gen i adra fi yna."

Ond mae Sofiia yn gweld manteision o fod yng Nghymru, yn enwedig ers i'w thad allu ymuno â'r teulu ym Môn.

"Yng Nghymru dwi'n gallu bod mwy efo Dad, efo Mam, efo'n chwaer, efo'n Nain, mwy efo'n gilydd. Mynd i'r parc, mynd am farbeciw," meddai.

"Ond dwi eisiau ysgol fel Llanfairpwll yn Wcráin."

Disgrifiad o’r llun,

Fe dreuliodd Sofiia, Danylo a Natalia 12 wythnos yn yr uned drochi ym Moelfre er mwyn dod yn rhugl yn y Gymraeg

Mae eu cyd-Wcreiniad, Danylo, oedd hefyd yn yr uned iaith ym Moelfre, wedi dychwelyd i'w famwlad erbyn hyn.

Ond wrth barhau i setlo yng Nghymru, mae Sofiia a Nataliia yn edrych ymlaen at y gwyliau haf, cyn dechrau blwyddyn ysgol arall ym mis Medi.

Pynciau cysylltiedig