Y Coridor Ansicrwydd: Balchder gemau cyntaf

Gwelwyd cipolwg o'r genhedlaeth newydd yn Lerpwl dros yr wythnos ddiwethaf wrth i lu o anafiadau orfodi'r rheolwr Jurgen Klopp i ddewis sawl chwaraewr ifanc yn rownd derfynol Cwpan y Gynghrair ac yna ym mhumed rownd Cwpan FA Lloegr.

Yn eu plith roedd y Cymro Lewis Koumas, mab cyn-chwaraewr Cymru Jason Koumas, a sgoriodd ar ei ymddangosiad cyntaf i'r clwb.

Mi fydd y teimlad o chwarae, heb sôn am sgorio, yn aros gyda chywion Klopp am byth, meddai Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones, wrth iddyn nhw drafod y balchder yr oedden nhw'n ei deimlo pan chwaraeon nhw i'w clybiau am y tro cyntaf yn fechgyn ifanc.

Y Coridor Ansicrwydd ar BBC Sounds., dolen allanol