'O’n i ffaelu symud mas o’r gwely oherwydd y boen'

Mae menyw ifanc o Abertawe'n dweud iddi orfod mynd i'r tŷ bach 20 gwaith y dydd a methu codi o'r gwely cyn cael bag stoma.

Fe gafodd Sophia Haden, 18, ddiagnosis o colitis briwiol (ulcerative colitis) y llynedd.

Roedd ei chyflwr yn ddifrifol, ac o fewn rhai misoedd, bu'n rhaid cael llawdriniaeth a gosod bag stoma.

Mae'n wynebu ail lawdriniaeth yn yr haf - fydd yn golygu fod ganddi fag stoma am byth.

Fe gafodd Sophia lawdriniaeth ym Mehefin 2023 i dynnu rhan o'i choluddyn mawr, a olygodd fod ganddi fag stoma dros dro.

Ond mae ei symptomau wedi gwaethygu eto: "Yn ddiweddar fi 'di dechrau dirywio eto a dyna pam 'dw i'n mynd i gael y llawdriniaeth nesaf yn yr haf.

"Bydd fy stoma yn barhaol. Ma' hwnna'n amlwg yn beth mawr.

"O ran iechyd meddwl, mae 'na rai diwrnodau lle dw i'n chuffed bo' fi wedi cael y bag, ond rhai lle mae'n teimlo bod bywyd wel, jyst wedi gorffen."