Mwy o bobl ifanc yn dysgu Cymraeg yn 'galonogol tu hwnt'
Mae nifer y bobl sy'n dysgu Cymraeg wedi cynyddu o 11% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, yn ôl ffigyrau diweddaraf.
Mae'r ffigyrau'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol yn dangos bod mwy na 16,900 o bobl wedi dechrau dysgu yn 2022-23.
Roedd 44% o'r dysgu yma ar gyrsiau ar-lein, ac mae'r cyfanswm draean yn uwch na phum mlynedd yn ôl.
Dywedodd prif weithredwr y ganolfan, Dona Lewis, ar raglen Dros Frecwast bod y ffigyrau diweddaraf yn dangos y "bwrlwm" sydd o fewn y sector.