Cynnydd 11% mewn dysgwyr Cymraeg yn ôl ffigyrau
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y bobl sy'n dysgu Cymraeg wedi cynyddu o 11% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, yn ôl ffigyrau diweddaraf.
Mae'r ffigyrau'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol yn dangos bod mwy na 16,900 o bobl wedi dechrau dysgu yn 2022-23.
Roedd 44% o'r dysgu yma ar gyrsiau ar-lein, ac mae'r cyfanswm draean yn uwch na phum mlynedd yn ôl.
Dywedodd prif weithredwr y ganolfan bod y ffigyrau diweddaraf yn dangos y "bwrlwm" sydd o fewn y sector.
'Galw uchel' am ddysgu Cymraeg
Mae nifer y dysgwyr wedi cynyddu bob blwyddyn ers 2017, pan gychwynnodd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol rhyddhau data o'r fath, dolen allanol.
Mae’r ganolfan yn ystyried 2019-2020 yn eithriad (17,505 o ddysgwyr unigryw) oherwydd cynnydd yn niferoedd y dysgwyr a ddilynodd gyrsiau hunan-astudio ar lefel blasu ar gychwyn y pandemig.
Daw'r ffigyrau diweddaraf bron i dair blynedd ar ôl i'r Cyfrifiad ddatgelu bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng.
Mae'r data'n dangos fod y mwyafrif o ddysgwyr o fewn oed gweithio, ond bod fwy o bobl ifanc wedi dysgu'r iaith na blynyddoedd cynt.
Roedd cynnydd o 9% yn nifer y bobl rhwng 16-24 oed a ddechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2022-23.
Cafodd ffigyrau ynglŷn â nifer y dysgwyr o gefndiroedd ethnig lleiafrifol eu rhyddhau am y tro cyntaf eleni.
Mae'r data'n awgrymu bod 3.9% o ddysgwyr yn dod o gefndir ethnig lleiafrifol.
Dywedodd prif weithredwr y ganolfan, Dona Lewis, ei fod yn "sicr yn glod i lwyddiant y sector bod cymaint o bobl eisiau dysgu Cymraeg".
"I ni, mae o'n dangos bwrlwm be' da ni'n weld o ddydd i ddydd.
"Un o heriau mawr y sector ydi ymateb i'r galw uchel sydd yna gan bobl i fod eisiau dysgu Cymraeg.
"Mae yna alw uchel am ddysgu Cymraeg, mae yna awydd uchel."
Credai Ms Lewis fod y ffurf wahanol mae gwersi yn cael ei gynnig yn rhannol gyfrifol am y cynnydd.
"Mae gennym ni lot mwy o ddewis i bobl ddysgu Cymraeg i ffitio mewn efo'i bywydau prysur."
Ychwanegodd: "Mae'r ganolfan yn ceisio sicrhau bod 'na groeso i bawb i ymuno gyda'n cyrsiau ni."
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2024
Er bod cyrsiau'r ganolfan wedi profi'n boblogaidd, mae un adnodd adnabyddus wedi wynebu rhwystr.
Cyhoeddodd Duolingo ar ddiwedd 2023 eu bod nhw am roi'r gorau i ddiweddaru cwrs dysgu Cymraeg.
Dywedodd Ms Lewis: "Mae adnoddau fel Duolingo yn rhywbeth sydd ar gael i ategu beth mae [dysgwyr] yn 'neud 'efo ni.
"Mae yna ystod eang o adnoddau eraill allan yna i helpu pobl ar eu siwrne.
"Y mwyaf o bethau sydd ar gael i ddysgwyr, gorau oll."