Yr 'afon' sy'n dod â lliw i Stryd Llyn Caernarfon

Byddai'n anodd i lawer gredu wrth gerdded yng nghanol Caernarfon bod Afon Cadnant yn llifo dan rhai o'i strydoedd hyd at ardal Doc Fictoria.

Mae yna gliw yn enw un o brif ardaloedd siopa'r dref - Stryd Llyn - a dyna yw lleoliad darn celf newydd sydd wedi "creu dipyn bach o liw yn y stryd".

Mae'r stribedi o ddeunyddiau glas sy'n cyhwfan uwchben y stryd yn adlewyrchu bodolaeth yr afon, ac yn gyfeiriad at rai o hen siopau'r stryd oedd yn arfer gwerthu pethau fel tecstiliau a rhaffau.

Mae'r cyfan yn rhan o broject cymunedol o'r enw Canfas, dan arweiniad canolfan gelfyddydol y cref, Galeri.